Munud i gofio am Terry Yorath cyn gêm Leeds United

Leeds United

Cafwyd munud o gymeradwyaeth i gofio am Terry Yorath cyn gêm Leeds United yn erbyn Fulham yn Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sadwrn.

Roedd aelodau ei deulu yn bresennol, gan gynnwys ei ferch, y darlledwr Gabby Logan, wrth i’r dorf a chwaraewyr y ddau dîm gymeradwyo cyfraniad Terry Yorath i’r clwb.

Sgoriodd Yorath 11 gôl mewn 199 o ymddangosiadau i Leeds United, ei glwb proffesiynol cyntaf, mewn cyfnod o naw mlynedd o 1967 ymlaen.

Bu farw’r cyn-chwaraewr canol cae a rheolwr pêl-droed Cymru yn 75 oed ar ôl salwch byr ar ddechrau’r mis.

Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, fe enillodd Terry Yorath 59 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1981 ac roedd yn hyfforddwr ar ei wlad rhwng 1988 ac 1993.

'Arwr'

Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ei farwolaeth, dywedodd Gabby Logan: "Roedd ein tad yn arwr ar y cae, gan fod yn gapten i'w glwb a'i wlad, ac yn ddyn caredig a hael oddi arno."

Ychwanegodd ei bod wedi treulio'r diwrnod cynt yng nghwmni ei thad yn yr ysbyty, gan drafod eu hoff brydau bwyd.

"Roeddem ni'n gwybod mai amser cyfyngedig oedd gennym ni, ond mae'n dal i fod yn sioc," meddai. 

Bu farw mab Yorath, a brawd Gabby, Daniel yn 15 oed yn 1992 o gyflwr ar y galon wrth chwarae pêl-droed gartref gyda'i dad.

Yn ogystal â Gabby a Daniel, roedd ganddo ddau o blant eraill, Louise a Jordan.

"Mae e bellach yn ôl gyda Daniel, ac fe fydd hynny yn teimlo fel adref," meddai Logan yn y deyrnged.

Roedd Yorath yn chwaraewr a'n is-hyfforddwr i Bradford ac roedd yn bresennol yn Valley Parade yn 1985 pan y cafodd 56 o bobl eu lladd. 

Ychwanegodd Gabby Logan: "Dwi mor sori ei fod wedi gorfod delio gyda chymaint o boen, roedd trasiedi tân Bradford yn ei galon am byth ac fe wnaeth colli Daniel ddiffinio ail hanner ei fywyd. 

"Diolch Dad am feithrin dy angerdd am degwch. Diolch am chwarae rownderi, neu wneud i ni rasio ar ôl ein gilydd ar ôl swper, hyd yn oed os y byddai Louise wastad yn curo.

Fe wnaeth hi hefyd ddiolch i'w thad am feithrin "cariad oes am chwaraeon" ynddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.