Sgandal Gwaed: Pryderon am iawndal i ddioddefwyr
Mae elusen wedi codi pryderon am daliad iawndal sydd wedi'i gynnig i ddioddefwyr y sgandal gwaed yn yr 1970au a'r 1980au a gafodd eu defnyddio'n ddiarwybod ar gyfer ymchwil, gan gynnwys bechgyn ifanc.
Cafodd 283 o gleifion yng Nghymru eu heintio â hepatitis C. O’r rheini, roedd 55 hefyd wedi’u heintio â HIV.
Mae mwy na £2 biliwn bellach wedi’i dalu mewn iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed yn yr 1970au a'r 1980au.
Ond mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi codi "pryderon dwys" am y taliadau i bobl a ddioddefodd "ymchwil anfoesegol" mewn un ysbyty yn Lloegr.
Yn ystod y 1970au a'r 1980au, roedd Coleg Treloar yr Arglwydd Faer yn Hampshire yn cynnig gofal arbenigol i blant gyda hemoffilia.
Cafodd disgyblion a oedd yn cael triniaeth ar gyfer yr anhwylder eu defnyddio'n ddiarwybod ar gyfer ymchwil gan feddygon y Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus Gwaed Heintiedig, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai 2024, fod plant ag anhwylderau gwaed a oedd wedi mynd i'r ysgol yn cael eu trin fel "gwrthrychau ar gyfer ymchwil" a'u bod yn cael nifer o driniaethau "mwy peryglus".
Cafodd taliad o £15,000 ei gynnig i ddioddefwyr Coleg Treloar yr Arglwydd Faer, gyda dyfarniad is o £10,000 i'r rhai mewn achosion llai cythryblus.
Mae newidiadau i'r taliad yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd.
'Ymhell o gyflawni cyfiawnder'
Mae Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi ysgrifennu at y gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet, Nick Thomas-Symonds, sy'n AS ar etholaeth Torfaen yn ne Cymru, i fynegi eu "pryderon dwys" am yr iawndal sydd wedi'i gynnig i ddioddefwyr a gafodd eu defnyddio'n ddiarwybod ar gyfer ymchwil.
"Rydym yn bryderus iawn bod y cynigion presennol ymhell o fod yn cyflawni cyfiawnder ac yn peryglu anfon neges beryglus am werth bywyd dynol ac uniondeb sefydliadau cyhoeddus yn y DU," meddai'r llythyr.
"Rydych chi’n fwy na ymwybodol o ddioddefaint aruthrol dioddefwyr yr hyn sy'n cael ei alw'n ‘ymchwil anfoesegol’ – pobl, y rhan fwyaf ohonynt yn blant, a roddwyd cynhyrchion gwaed iddynt yn fwriadol, gan wybod eu bod wedi’u heintio â HIV, hepatitis B, a hepatitis C.
"Nid damwain oedd hon, penderfyniad ymwybodol gan weithwyr meddygol proffesiynol ydoedd."
'Anghyfiawnder'
Mae'r elusen ac aelodau eraill o’r gymuned gwaed heintiedig wedi galw am i’r dyfarniad gael ei "hadolygu’n llawn ac yn dryloyw".
Dywedodd Gary Webster, a gafodd ei heintio gydag HIV a hepatitis C yng Nholeg Treloar, fod cynnig posib o £25,000 yn dal i fod "ymhell o’r nod".
"Sut allwch chi gynnig £25,000 i rywun sydd wedi cael ei arbrofi a’i ymchwilio, a’r rhan fwyaf o’r amser wedi’i ladd?" meddai.
"Mae’n hurt. Mae’n rhaid iddo fod yn llawer mwy na’r hyn maen nhw’n ei gynnig."
Dywedodd o’r 122 o fechgyn hemoffilig a fynychodd y coleg, bod mwy nag 80 bellach wedi marw.
"Cawsom ein gorfodi, yn y bôn, i gael pigiadau bob dydd," meddai Mr Webster.
"Ar y pryd, doedden ni ddim yn gwybod – roedden ni’n wyth, naw, 10 oed – ac roedden ni’n meddwl bod y meddygon, a oedd yn ffrindiau i ni, a oedd yn arfer dod i wneud chwaraeon gyda ni gyda’r nos, yn meddwl eu bod nhw’n gwneud daioni i ni.
"Doedd gan ein rhieni ddim gwybodaeth am unrhyw beth.
"Cafodd pob hemoffilig ledled y DU eu hymchwilio a’u harbrofi mewn un ffordd neu’r llall, ond yn enwedig yn Ysbyty Treloar roedd yn gyson."
Mewn mannau eraill, mae'r llythyr hefyd yn codi pryderon am oedi i ymchwiliad troseddol posib i'r sgandal.
Ar ôl i'r ymchwiliad gyhoeddi ei ganfyddiadau ym mis Mai 2024, cychwynnodd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) adolygiad i benderfynu a allai neu a ddylai ymchwiliad troseddol cenedlaethol ddilyn. Ym mis Rhagfyr, dywedodd fod yr adolygiad yn "barhaus".
Mae'r llythyr newydd yn nodi: "Nid ydynt (yr NPCC) yn rhoi unrhyw amserlen ar gyfer cwblhau.
Mae'r oedi hwn yn gwaethygu'r anghyfiawnder ac yn erydu ymddiriedaeth y cyhoedd."
Mae llofnodwyr y llythyr wedi galw am "amserlen glir neu benderfyniadau ar atebolrwydd troseddol".
Mae Swyddfa'r Cabinet wedi cael cais am ymateb.