Pwllheli: Carcharu dyn a ymosododd yn rhywiol ar ferch 13 oed ar ôl cysylltu â hi drwy gêm gyfrifiadur

Llys y Goron yr Wyddgrug

Mae dyn oedd wedi ymosod yn rhywiol ar ferch 13 oed ym Mhwllheli ar ôl cysylltu â hi drwy gêm gyfrifiadur wedi ei garcharu am 10 mlynedd.

Roedd Alexander Sands o ardal Preston yn Lloegr wedi meithrin perthynas amhriodol â dwy ferch ifanc ac ymosod yn rhywiol ar un ohonyn nhw.

Fe ymddangosodd y dyn 33 oed yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener i gael ei ddedfrydu.

Roedd wedi cyfaddef yn flaenorol iddo gyfarfod merch 13 oed yn ardal Pwllheli ar ôl meithrin perthynas amhriodol â hi at ddibenion rhywiol.

Fe wnaeth hefyd gyfaddef iddo ymosod ar y plentyn drwy dreiddio mewn digwyddiadau yn y dref yn 2022.

Fel rhan o ymchwiliad ar wahân gan Heddlu Swydd Gaerhirfryn, fe wnaeth hefyd gyfaddef iddo geisio cyfarfod plentyn wyth oed ar ôl meithrin perthynas amhriodol â hi. 

Fe ddigwyddodd hynny yn ardal Swydd Gaerlŷr y llynedd.

Cafodd Sands ddedfryd estynedig o 14 mlynedd, gan gynnwys 10 mlynedd yn y carchar a chyfnod estynedig o bedair blynedd.

Fe gafodd orchmynion atal am oes i ddiogelu’r ddau ddioddefwr. Bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am oes ac fe gafodd hefyd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol am 12 mlynedd.

‘Peryg i blant’

Fe gysylltodd Sands â’r dioddefwr ym Mhwllheli drwy ei ffrind ar gêm fideo ar-lein. Fe ddywedodd wrthyn nhw ei fod yn 16 oed, ond roedd yn 29 oed mewn gwirionedd.

Fe ofynnodd i’r dioddefwr am fanylion ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ond fe wrthododd hi.

Ar achlysur arall, pan oedd y dioddefwr yn chwarae gêm fideo gyda’i ffrind, fe ddywedodd Sands wrthi ei fod yn dod i ymweld â hi dros y penwythnos, er nad oedd hi erioed wedi dweud wrtho ble roedd yn byw.

Y diwrnod wedyn, fe gyrhaeddodd ardal Pwllheli a dod o hyd i’r dioddefwr yn eistedd ar fainc gyda’i ffrindiau.

Pan wrthododd y dioddefwr roi cwtsh iddo, fe wthiodd un o’i ffrindiau oddi ar y fainc ac eistedd wrth ei hymyl. Yna fe orfododd ei hun arni a’i chusanu.

Yna fe geisiodd roi ei ddwylo i lawr ei throwsus cyn ymosod yn rhywiol arni.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Jamie Aston: “Mae Alexander Sands yn berygl i blant ac fe ddefnyddiodd blatfform ar-lein i dargedu ei ddioddefwr er mwyn bodloni ei chwantau rhywiol.

“Mae’r achos hwn yn amlygu pa mor bwysig yw hi i blant a’u rhieni wybod yn union â phwy maen nhw’n siarad ar-lein.

“Rwy’n canmol dewrder y dioddefwyr yn yr achosion hyn am gael y nerth i ddod ymlaen a rhoi eu tystiolaeth. Mae hynny wedi arwain at ddedfryd hir i Sands y tu ôl i fariau, lle na all achosi niwed mwyach.

“Rydym yn annog pob dioddefwr ymosodiad rhywiol i ddod ymlaen yn hyderus y bydd rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi.

“Ni fydd trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei oddef ac mae’n parhau’n un o brif flaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru. 

"Byddwn yn parhau i fynd ar ôl y rhai sy’n gyfrifol a dod â nhw gerbron y llys.”

Llun: Llys y Goron yr Wyddgrug

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.