Cadeirydd Hybu Cig Cymru ‘wedi dweud celwydd’ wrth ymateb i honiadau o ddiwylliant gwenwynig, medd staff
Mae rhai o weithwyr a chyn-weithwyr Hybu Cig Cymru wedi cyhuddo eu Cadeirydd o ddweud celwydd wrth ymateb i honiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn y sefydliad.
Roedd Catherine Smith yn siarad ar raglen Y Byd ar Bedwar ar 25 Tachwedd lle datgelwyd pryderon am “ddiwylliant toxic, o annonestrwydd, ofn a gaslighting”.
Dywedodd Ms Smith, fod bwrdd Hybu Cig Cymru, sy’n gyfrifol am hyrwyddo cig coch Cymreig, eisoes wedi ymateb i’r pryderon drwy wneud “y peth iawn” a dilyn y “prosesau angenrheidiol”.
Ond mewn llythyr di-enw rai diwrnodiau yn ddiweddarach, mae Ms Smith yn cael ei chyhuddo o ymateb yn gamarweiniol ac anonest.
Mae Hybu Cig Cymru wedi cael cais am ymateb.
‘Bwlio: Dim cosb wedi bod’
Ym mis Medi 2023, roedd honiadau o fwlio wedi eu gwneud gan gyn-weithwyr a rhai aelodau o staff presennol Hybu Cig Cymru yn erbyn un unigolyn penodol.
Cafodd ymchwiliad gan ymgynghorydd allanol ei gynnal a wnaeth ddatgan bod angen gweld gwelliannau gan yr unigolyn dan sylw a’r corff ei hun. Mae Y Byd ar Bedwar hefyd yn cael ar ddeall fod yr unigolyn oedd yn sail i’r ymchwiliad wedi ei gael yn euog o dri allan o bum categori o fwlio. Serch hynny, y gred yw fod yr unigolyn yn dal i weithio i Hybu Cig Cymru.
“Mae yna deimlad bod ddim cosb wedi bod i'r person o gwbl, a dydyn nhw ddim wedi newid eu hymddygiad chwaith.”
“Mae cymaint o staff wedi gadael dros y misoedd diwethaf, ac mae'r mwyafrif ohonyn nhw - yn ôl beth rwy'n clywed - wedi dweud eu bod nhw'n anhapus iawn gyda'r ffordd mae Hybu Cig Cymru wedi delio gyda'r bwlio.”
Yn ei chyfweliad, dywedodd Catherine Smith fod bwrdd Hybu Cig Cymru wedi ymateb i’r achosion o fwlio drwy “ddilyn yr argymhellion a’r canlyniadau” a bod newidiadau wedi cael eu “gweithredu’n llawn”.
Mae rhai cyn-weithwyr ac aelodau presennol o staff Hybu Cig Cymru wedi disgrifio ymateb Ms Smith fel un camarweiniol. Maen nhw hefyd yn cyhuddo’r bwrdd o anwybyddu rhai o brif ganfyddiadau’r ymchwiliad, yn ogystal â rhai o’r achosion lle cafodd ei brofi fod yr unigolyn wedi bwlio cydweithwyr.
Yn dilyn rhaglen Y Byd ar Bedwar nos Lun fe wnaeth Ms Smith hefyd wneud sylwadau i’r Farmers Guardian oedd yn disgrifio’r bennod fel un “orfodol o anghywir” ac yn “gamfynegiant llwyr” o Hybu Cig Cymru.
Mae'r sylwadau yma wedi eu beirniadu'n chwyrn yn y llythyr: “Nid yn unig ydy hyn yn sarhâd ac yn amharch personol, corfforol ac emosiynol i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan ymddygiad rhai sy’n dal i fodoli yn Hybu Cig Cymru, ond mae’n dangos agenda barhaus y Cadeirydd i ddiystyru’r gwir a pharhau gyda chelwyddau diddiwedd.
“Roedd yr hyn gath ei adrodd gan weithwyr presennol a chyn-weithwyr HCC ar Y Byd ar Bedwar yn gofnod cywir o’r sefyllfa, sefyllfa y mae staff wedi ceisio tynnu sylw ato ar sawl achlysur i fwrdd Hybu Cig Cymru, y Prif Weithredwr dros dro, rhanddeiliaid allanol a Llywodraeth Cymru, gyda neb yn gwrando.
“Mae’r gwadu yma gan y Cadeirydd, er gwaethaf tystiolaeth yr ymchwiliad annibynnol, yn adlewyrchu sylwadau y gweithwyr o ddiwylliant o gaslighting ac anosetrwydd o fewn Bwrdd y sefydliad.”
‘Angen ymchwilio’n drylwyr’
Mewn ymateb i’r llythyr diweddaraf, mae James Evans AS o’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i “ymchwilio’n drylwyr i’r corff Llywodraethol yma sy’n cynnal diwydiant werth dros £1biliwn i Gymru”.
"Mae'n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru roi'r corff hwn yn ôl i'r diwydiant - a chreu bwrdd marchnata cig cwbl annibynnol i Gymru, sy'n cael ei redeg gan ein ffermwyr a'n proseswyr sy'n cael eu hethol i wasanaethu ar y bwrdd gan y diwydiant eu hunain."
Mae Hybu Cig Cymru yn gwmni annibynnol, ond mae pob un o’r cyfarwyddwyr a Chadeirydd y Bwrdd yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru. Mewn ymateb i’r honiadau gwreiddiol ddydd Llun, dywedodd y llywodraeth eu bod yn “parhau i gefnogi Hybu Cig Cymru i gyflawni ei waith pwysig i’r sector cig coch yng Nghymru”.
"Mae Hybu Cig Cymru yn bartner allweddol wrth gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer diwydiant proffidiol, cynaliadwy, arloesol a chystadleuol sydd hefyd yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr economi wledig ehangach."
Mae Y Byd ar Bedwar: Argyfwng Hybu Cig Cymru ar gael i’w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.