Newyddion S4C

Honiadau o ddiwylliant gwaith ‘gwenwynig’ yn Hybu Cig Cymru wrth i bron i hanner y staff adael

Y Byd ar Bedwar 25/11/2024

Honiadau o ddiwylliant gwaith ‘gwenwynig’ yn Hybu Cig Cymru wrth i bron i hanner y staff adael

Mae cyn-weithwyr ac aelodau presennol o staff Hybu Cig Cymru wedi datgelu bod “diwylliant toxic o anonestrwydd, ofn a gaslighting” yn bodoli yn y sefydliad, sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru.  

Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi siarad â nifer o gyn-weithwyr a staff presennol Hybu Cig Cymru. Mae’r corff yn cyflogi tua 30 aelod o staff, ond dros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae 13 o weithwyr naill ai wedi gadael neu ar fin gwneud.

Dywedodd y rheiny sydd â phrofiad o weithio yno wrth raglen Y Byd ar Bedwar:

“Mae lot fawr o staff sydd wir yn poeni am weithio yn amgylchedd y swyddfa. Mae rhai yn eu dagrau yn poeni am eu diogelwch yn y gweithle.

“Mae'r ofnau yma wedi cael eu wfftio a'u diystyru’n gyson gan Hybu Cig Cymru. A thrwy wneud dim, mae'r corff wedi cefnogi ymddygiad amhriodol nad oes modd ei amddiffyn.”

Ym mis Medi 2023, roedd honiadau o fwlio wedi eu gwneud gan gyn-weithwyr a staff presennol Hybu Cig Cymru yn erbyn un unigolyn penodol:

“Doedden nhw [yr unigolyn dan sylw] ddim am weld neb arall yn llwyddo. Roedden nhw fel petaen nhw am weld pobl eraill yn methu.”

“Roedden nhw’n bychanu staff eraill, ac roedd gweithio gyda'r person yn anghyfforddus iawn oherwydd hynny.”

Image
Catherine, Hybu Cig Cymru
Yn ôl cadeirydd Hybu Cig Cymru, Catherine Smith, mae'r corff wedi bod trwy "16 mis heriol".

Fe wnaeth Y Byd ar Bedwar ofyn i Hybu Cig Cymru faint o bobl oedd wedi gwneud cwyn o fwlio yn erbyn yr unigolyn yma. Yn eu hateb, fe ddywedon nhw fod chwe pherson wedi cwyno. Doedd y corff ddim yn fodlon ymhelaethu ar natur y cwynion, ond fe wnaethon nhw gadarnhau bod ymgynghorydd allanol wedi ymchwilio i’r cwynion a nodi bod angen gweld gwelliannau gan yr unigolyn dan sylw a’r corff ei hun. Fe wnaeth yr ymchwiliad gostio mwy na £15,000 i’r cwmni.

Mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi clywed bod yr unigolyn oedd yn sail i’r ymchwiliad wedi ei gael yn euog o dri allan o bum categori o fwlio. Mae’r categorïau hynny yn cynnwys ymddygiad diraddiol a phigo ar rai aelodau o staff; goruchwyliaeth ormesol; a chreu awyrgylch ac amgylchedd sy'n fygythiol ac yn anghyfforddus i staff. 

Fe gafodd y rhaglen hefyd wybod gan staff y cwmni bod y person yma yn dal i weithio i Hybu Cig Cymru:

“Gan bod y person yna dal yno, mae sawl aelod o staff yn teimlo'n anghyfforddus iawn am y peth.”

“Mae yna deimlad bod ddim cosb wedi bod i'r person o gwbl, a dydyn nhw ddim wedi newid eu hymddygiad chwaith.”

“Mae cymaint o staff wedi gadael dros y misoedd diwethaf, ac mae'r mwyafrif ohonyn nhw - yn ôl beth rwy'n clywed - wedi dweud eu bod nhw'n anhapus iawn gyda'r ffordd mae Hybu Cig Cymru wedi delio gyda'r bwlio.”

“Rydyn ni i gyd yn trïo ein gorau i gadw i fynd, ond mae bron yn amhosib nawr i weithio yn yr amgylchedd sydd gyda ni.” 

Image
Llyr Gruffydd
Dywedodd AS Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llŷr Gruffydd, bod angen "llechen lân"

Dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llŷr Gruffydd, bod yna gwestiynau am ddyfodol y Cadeirydd a’r Bwrdd.

“‘Dyw hynny ddim i ddweud bod bai ar bob aelod o’r Bwrdd am bopeth sydd wedi digwydd; ond, er mwyn symud ymlaen, mae’n rhaid cael y llechen lân yna a dechrau o’r dechrau. Os nad yw hynny’n digwydd, ‘dw’i ddim yn gwybod sut allwn ni symud ymlaen.” 

“‘Dyw pethau ddim yn iach, ‘dyw pethau ddim fel y dylen nhw fod. Mae’n rhaid sortio hyn mas yn hytrach na chladdu pen yn y tywod.”

Yn ôl Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Catherine Smith, mae Hybu Cig Cymru wedi bod trwy “16 mis heriol”.

“Rwy’n ymwybodol bod honiadau wedi’u gwneud yn gynharach yn y flwyddyn.”

“Mae gwneud y peth iawn yn golygu dilyn y prosesau angenrheidiol, cymryd cyngor cyfreithiol, cael ymchwilydd annibynnol, a dilyn yr argymhellion a’r canlyniadau.” 

“Roedd angen newidiadau ac roedd y newidiadau hynny yn rhan annatod o'r argymhellion. Maen nhw'n cael eu gweithredu'n llawn.”

“Y peth pwysicaf oll yw bod y peth iawn wedi'i wneud.” 

“Fel Bwrdd, rydym yn ofalus iawn o sut rydym yn gwario arian y talwyr levy.”

“Byddai’n ddiofal i beidio â chymryd y cyngor cywir a phriodol a pheidio â dilyn y broses ddilys. I wneud hynny, mae angen adnoddau dynol proffesiynol ac mae angen cyngor cyfreithiol proffesiynol."

Yn ymateb i’r cwestiynau ynghylch ei dyfodol hi fel Cadeirydd y Bwrdd, fe ddywedodd Catherine Smith: 

“Pam fyddai angen i unrhyw berson ail-ystyried ei swydd pan maen nhw wedi gwneud y peth iawn? Mae pethau anodd wedi digwydd yn yr 16 mis diwethaf, a'r neges i'r talwyr levy yw bod Hybu Cig Cymru yn sefydliad sydd wedi gwneud y peth iawn ac rydym yn parhau yn dawel ac yn benderfynol i gyflawni ar ran y rhai sy'n talu'r levy.”

Mae Hybu Cig Cymru yn gwmni annibynnol, ond mae pob un o’r cyfarwyddwyr a Chadeirydd y Bwrdd yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 

"Rydym yn parhau i gefnogi Hybu Cig Cymru i gyflawni ei waith pwysig i'r sector cig coch yng Nghymru.

"Mae Hybu Cig Cymru yn bartner allweddol wrth gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer diwydiant proffidiol, cynaliadwy, arloesol a chystadleuol sydd hefyd yn cael effeithiau cadarnhaol ar yr economi wledig ehangach."

Gwyliwch y rhaglen gyfan Nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic neu BBC iPlayer.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.