Dysgwyr Cymraeg 'wrth galon' Eisteddfod newydd yng Nghwm Tawe
Wrth i Eisteddfod newydd gyrraedd Cwm Tawe eleni, mae’r trefnwyr wedi rhoi dysgwyr yr iaith "wrth galon" yr ŵyl.
Ar ôl llwyddiant Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr y llynedd, mae criw o wirfoddolwyr yng Nghwm Tawe yn benderfynol o barhau â’r egni a’r bwrlwm a grëwyd yn sgil yr ŵyl.
Ddydd Sadwrn fe fydd Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn croesawu Eisteddfod leol i’r ardal am y tro cyntaf.
Mae Rhian James Collins, ysgrifenyddes pwyllgor gwaith yr Eisteddfod, yn teimlo fod yr ŵyl newydd yn “waddol i Eisteddfod Dur a Môr, a’n bwriad ni fel pwyllgor yw ceisio adeiladu ar y gwaith ardderchog a wnaed yn yr ŵyl honno ym Mharc Margam.”
Gwelwyd cynnydd o 42% yn nifer y dysgwyr Cymraeg ifanc a gymerodd ran yn Eisteddfod Dur a Môr, o’i gymharu â’r Eisteddfod flaenorol.
Mae’r pwyllgor yn benderfynol o geisio cynnal y llwyddiant a brofwyd ym mis Mai y llynedd lle gwelwyd nifer o ysgolion cyfrwng Saesneg yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf.
“Mae yna ddysgwyr gyda ni ar y pwyllgor ac rwy’n credu bod cael cynrychiolaeth o blith dysgwyr eto yn gallu cryfhau be i ni’n ceisio gwneud fel pwyllgor i’r dyfodol, achos mae eu mewnbwn nhw yn cynnig persbectif cwbl wahanol i ni," meddai Rhian.
“Mae busnesau lleol eisoes wedi cynnig eu cefnogaeth ac mae hynny’n arwydd o’r dyhead i gofleidio a meithrin ymdeimlad o Gymreictod yn y Cwm.”
'Adfywio'r Gymraeg'
Yn ôl Rhian Collins, sy’n gyn-bennaeth mewn dwy o ysgolion Cymraeg Abertawe, mae'r Eisteddfod yn rhoi cyfle i "gryfhau statws yr iaith" yng Nghwm Tawe.
Mae ystadegau cyfrifiad 2021 yn nodi bod tua 16% o drigolion Cwm Tawe yn gallu siarad Cymraeg.
“Mae newid mawr wedi bod ym Mhontardawe dros y blynyddoedd diwethaf," meddai Rhian.
“Erbyn heddi', prin y clywch chi y Gymraeg yn cael ei siarad ar hyd strydoedd y dref. Ond pan o’n i’n ifanc, roedd hi’n gwbl wahanol, dim ond Cymraeg fyddech chi’n ei glywed.
“Mae yna genhedlaeth goll, yn anffodus, ond rwy’n credu bod 'na ddyhead ymhlith pobl i weld yr iaith yn para a ffynnu. Fy ngobaith i yw bod yr eisteddfod yma yn ffordd o sbarduno twf ac adfywiad yn yr iaith ym mhentrefi’r Cwm.”
'Dyfodol y Gymraeg'
Robat Powell oedd y dysgwr cyntaf erioed i gipio Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1985.
Yn wreiddiol o Lyn Ebwy a bellach wedi ymgartrefu yng Nghwm Tawe, mae'n un o feirniaid llenyddol Eisteddfod Cwm Tawe.
Credai fod yr eisteddfod yn gam pwysig tuag at sicrhau dyfodol y Gymraeg.
“Pobl sy’n dysgu’r iaith yw dyfodol y Gymraeg,” meddai.
“Mae nifer y plant sy’n cael eu magu ar aelwydydd Cymraeg yn lleihau, felly mae’n hollbwysig denu plant a phobl ifanc o deuluoedd di-Gymraeg i ddysgu ac i ddefnyddio’r iaith.
“Efallai bydd plant yn teimlo yn nes at Eisteddfod leol na’r un genedlaethol.
"Mae’n bosib bod y syniad o gystadlu yn erbyn plant o bob cwr o Gymru, gan gynnwys rhai o gadarnleoedd yr iaith, yn codi ofn ar ysgolion a’r athrawon, yn ogystal â’r plant.”
Yn ôl Robat, mae gan athrawon rôl allweddol i’w chwarae wrth fagu hyder ymysg dysgwyr yr iaith.
"Mae llawer o gyfrifoldeb ar yr athrawon i hyrwyddo’r Eisteddfod ac i feithrin balchder lleol. Gobeithio bydd yr elfen leol yn magu rhyw falchder ac yn gwneud i’r plant feddwl, ‘mae gobaith gyda fi fan hyn'.
“Mae rhywun yn gallu dysgu Cymraeg yn y dosbarth, ond heb glywed yr iaith tu fas o gwbl – dyna’r perygl.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn tynnu pobl i mewn i’r byd Cymraeg ac yn eu gwneud yn rhan ohono.”
‘Cyfle i fodoli yn yr iaith’
Ymhlith y rhai sydd wedi elwa o'r cyfleoedd mae’r Eisteddfod wedi eu cynnig yw Joseph Morgan, dysgwr Cymraeg o Gaerdydd a enillodd Wobr Bobi Jones yn Eisteddfod Dur a Môr eleni.
Mae'r wobr yn cael ei roi i ddysgwyr ifanc, a dywedodd bod dysgwyr yn "hanfodol" wrth sicrhau dyfodol y Gymraeg.
“Mae’r Eisteddfod wedi dangos i fi bod yna le i ddysgwyr yn y gymdeithas Gymraeg,” meddai.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n croesawu dysgwyr ac yn eu hannog i barhau i ddefnyddio’r iaith. Dyna be sy’n cadw’r iaith Gymraeg yn fyw.
“Mae cystadlaethau i ddysgwyr yn gwneud i ni deimlo ein bod yn rhan bwysig o fwrlwm yr Eisteddfod.
“Es i ati i ddysgu’r Gymraeg o ddifrif yn y chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yn y brifddinas, ond roedd cael y cyfle i ddefnyddio’r iaith tu fas i furiau’r ysgol, a phrofi’r diwylliant Cymraeg, yr un mor bwysig i mi.”
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 10:00 a 20:00 ddydd Sadwrn gyda chystadlaethau canu, dawnsio, llefaru, offerynnol a gwaith cartref.