Cyhuddo dyn ar ôl i gerflun o Winston Churchill gael ei ddifrodi

Llun: PA / Lucy North
Cerflun Winston Churchill

Mae dyn 38 oed wedi cael ei gyhuddo ar ôl i graffiti ymddangos ar gerflun o Winston Churchill yn Westminster ddydd Gwener.

Cafodd graffiti gyda'r geiriau 'Zionoist war criminal' eu paentio ar y gofgolofn.

Dywedodd Heddlu'r Met bod Caspar San Giorgio wedi cael ei arestio ychydig wedi 04:00 fore Gwener.

Cafodd ei symud i'r ddalfa a'i gyhuddo 24 awr yn ddiweddarach.

Ychwanegodd y llu bod disgwyl iddo ymddangos yn Llys yr Ynadon Highbury Corner fore dydd Sadwrn.

Mae'r cerflun wedi'i leoli gyferbyn ag adeilad Palas San Steffan.

Cafodd y cerflun ei greu gan y Cymro Ivor Roberts-Jones, a'r gred yw bod yr artist Kyffin Williams wedi sefyll fel model ar gyfer y gwaith -  gan fenthyg ei siaced filwrol er mwyn i'w ffrind greu'r cerflun o Churchill yn ei lifrau.

Roedd wedi'i beintio gyda brawddegau'n cynnwys "Stop the Genocide" a "Free Palestine" mewn paent coch arno.

Roedd y grŵp Free the Filton 24 wedi hawlio cyfrifoldeb am y graffiti, gan gyhoeddi fideo ar Instagram yn dangos y graffiti yn cael ei beintio.

Mae'r grŵp yn disgrifio'i hun fel "teulu a ffrindiau" 24 aelod o Palestine Action a gafodd eu cyhuddo o dorri i mewn i o safleoedd y cwmni amddiffyn Elbit, sydd yn cael ei ddefnyddio gan Israel, yn 2024.

Dywedodd Downing Street bod difrodi'r cerflun yn weithred “hollol ffiaidd”.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Roedd Churchill yn Brydeiniwr gwych. Bydd y Llywodraeth hon bob amser yn sefyll dros ein gwerthoedd a rhaid dwyn y troseddwr i gyfrif.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.