YSN a'r Barri'n brwydro am Gwpan Nathaniel MG
Dyma gipolwg ar rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.
Y Seintiau Newydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 17:30 (Stadiwm Dragonbet, Pen-y-bont)
Brynhawn Sadwrn bydd dau glwb mwyaf llwyddiannus holl hanes Cwpan y Gynghrair yn cyfarfod yn y rownd derfynol yn Stadiwm Dragonbet, Pen-y-bont.
Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol Cwpan Nathaniel MG a clwb mwyaf llwyddiannus y gystadleuaeth ar ôl codi’r cwpan ar 11 achlysur.
Yn y rownd derfynol y tymor diwethaf, Aramide Oteh sgoriodd unig gôl y gêm ar Barc Latham wrth i’r Seintiau Newydd ennill o 1-0 yn erbyn Aberystwyth.
Y Seintiau oedd yr enillwyr y flwyddyn flaenorol hefyd ar ôl curo Abertawe dan 21 yn y rownd derfynol, ac felly mae criw Craig Harrison wedi ennill 14 gêm yn olynol yn y gystadleuaeth.
Y Barri yw ail dîm mwyaf llwyddiannus holl hanes Cwpan y Gynghrair (4) wedi i’r Dreigiau godi’r cwpan am bedair blynedd yn olynol rhwng 1996 a 2000.
Mae’r Barri wedi cyrraedd y rownd derfynol ddwywaith ers hynny, ond yn colli yn 2001 yn erbyn Caersws, a cholli o 4-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn 2017.
Chris Seargeant oedd seren y Seintiau ar y diwrnod hwnnw ym mis Ionawr 2017, yn sgorio hatric yn y rownd derfynol ar Gampws Cyncoed.
I gyrraedd y rownd derfynol eleni mae’r Seintiau wedi curo Airbus UK (7-1), Cei Connah (1-3), Caernarfon (3-0), a Llandudno (2-1), tra bod Y Barri wedi trechu Aberystwyth (2-1), Llanelli (1-0), Hwlffordd (0-2) a Cambrian (0-3) i ddod cyn belled yn y gystadleuaeth.
Does dim un chwaraewr o’r naill dîm na’r llall wedi sgorio mwy na dwy gôl yn y gwpan y tymor yma, gyda Rory Holden, Isaac Jefferies, Ollie Hulbert a Ieuan Owen ymysg y rheiny i sgorio ddwywaith hyd yma.
Mae’r Seintiau Newydd yn mwynhau cyfnod da ar ôl ennill eu chwe gêm ddiwethaf, a bydd y rheolwr Craig Harrison yn ysu i barhau â’r rhediad ddydd Sadwrn er mwyn hawlio tlws cynta’r tymor.
Fe alla’i fod yn wythnos ffrwythlon i’r Seintiau, gan y byddai buddugoliaeth yn erbyn Cei Connah nos Fawrth yn ddigon i sicrhau’r bencampwriaeth, ac felly bydd cewri Croesoswallt yn anelu i gyflawni’r dwbl domestig am y pumed tymor yn olynol.
Mae’r Barri hefyd wedi perfformio’n gadarn yn ddiweddar gan ennill eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon a Chei Connah, ac hynny heb ildio gôl.
Y Seintiau Newydd a’r Barri yw’r ddau glwb sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair, ond mae record sgorio’r Seintiau dipyn yn gryfach na’r Dreigiau (YSN – 70 gôl, Y Barri – 36 gôl).
Teg dweud y bydd y Seintiau’n ffefrynnau clir, gan nad ydyn nhw wedi colli yn eu 16 gornest ddiwethaf yn erbyn Y Barri, ers mis Medi 2019 (ennill 13, cyfartal 3).
Dyw’r Barri heb sgorio yn eu tair gêm yn erbyn y Seintiau’n y gynghrair y tymor hwn, ond bydd rhaid i hynny newid brynhawn Sadwrn os yw’r Dreigiau am achosi sioc yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG.
Llun: CBDC
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.