Pryder am lacio cyfyngiadau Covid-19 ledled Prydain
Mae dau o bob tri oedolyn y Deyrnas Unedig yn bwriadu parhau i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl ymchwil diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Daw'r newyddion ar y diwrnod y cafodd y mwyafrif o gyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr a'r Alban eu llacio.
Mae disgwyl i Gymru symud i gyfyngiadau Lefel 0 ar ddydd Sadwrn 7 Awst os bydd amodau iechyd cyhoeddus yn caniatáu.
Yng Nghymru bydd y rheol ynglŷn â gwisgo mygydau yn parhau i fod mewn grym yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do am gyfnod i ddod.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae dros hanner (57%) y bobl gafodd eu holi rhwng 7 a 11 Gorffennaf wedi dweud eu bod yn pryderu am ddiwedd cyfyngiadau cyfreithiol Covid-19.
Roedd 20% o'r rhai gafodd eu holi yn bryderus iawn am ddiwedd y cyfyngiadau.
Roedd bron i hanner yr oedolion (49%) yn bwriadu cynnal pellter cymdeithasol o amgylch eraill nad ydyn nhw'n byw gyda nhw.
Roedd y ganran ar ei hisaf ymhlith y rhai rhwng 16 a 29 oed (31%) ac ar ei huchaf ymhlith y rhai rhwng 50 a 69 oed (59%).
Llai o bryder ymysg yr ifanc
Yn dilyn y newidiadau i gyfyngiadau Covid-19 ledled y Deyrnas Unedig, pobl ifanc sydd yn ymddangos fel y rhai lleiaf pryderus am ddychwelyd i normalrwydd yn ôl yr ystadegau.
Roedd 54% o'r bobl ifanc a holwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at gael y cyfle i ymgynnull dan do ag eraill heb gyfyngiadau.
Yn ôl yr ystadegau mae 51% o oedolion rhwng 16 a 29 yn bwriadu gwisgo mygydau dan do mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda'r ganran yn codi i 74% o bobl dros 70 oed.
Pan ddaw holl gyfyngiadau Covid-19 i ben, mynd ar wyliau tramor oedd y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymysg y rhan fwyaf o oedolion.
Yr unig eithriad yn yr achos yma oedd ymysg pobl dros yr oedran o 70, oedd yn edrych ymlaen fwyaf at gael cofleidio pobl nad oeddent yn byw gyda nhw.
Roedd 56% o'r bobl gafodd eu holi yn bryderus am ddiwedd cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr, tra bod 28% o bobl ddim yn credu y byddai bywyd yn dychwelyd i normal am dros flwyddyn arall.