Newyddion S4C

Llacio cyfyngiadau Covid-19 wrth i Gymru symud i Rybudd Lefel 1

17/07/2021
Pobl yn bwyta yn yr awyr agored

Mae rhagor o gyfyngiadau Covid-19 wedi eu llacio yng Nghymru.

O ddydd Sadwrn, bydd gan bobl fwy o ryddid i gwrdd mewn cartrefi yn ogystal ac mewn mannau cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio pobl i gofio nad yw’r “pandemig ar ben” wrth i nifer yr achosion o’r amrywiolyn Delta gynyddu yng Nghymru.

Dan y newidiadau, fe fydd hyd at chwech o bobl yn cael cwrdd dan do mewn cartrefi a llety gwyliau.

Mae 1,000 o bobl yn gallu mynychu digwyddiadau torfol dan do os ydy’n nhw’n eistedd, gyda 200 yn sefyll, yn ddibynnol ar asesiad risg.

Image
Priodas

Ar ddechrau gwyliau’r haf,  mae canolfannau preswyl fel yr Urdd neu’r Sgowtiaid yn cael croesawu hyd at 30 o blant yn eu canolfannau preswyl.

Mae canolfannau sglefrio iâ yn cael ailagor o ddydd Sadwrn hefyd.

Bydd y terfyn ar y nifer sy’n cael cwrdd y tu allan yn dod i ben, gyda rheolau ar gadw pellter cymdeithasol yn cael eu llacio.

Mae’r newidiadau yn unol â thystiolaeth wyddonol sy’n awgrymu fod y risg o drosglwyddo’r haint yn yr awyr agored yn llawer is na dan do.

Beth nesaf?

Gyda chynlluniau i lacio'r cyfyngiadau ymhellach o ddydd Sadwrn 7 Awst, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 0 yn “raddol”.

Dywed mai’r gobaith yw y bydd y newidiadau presennol yn galluogi llacio pellach ymhen tair wythnos.

Y gobaith yw gallu llacio cyfyngiadau dan do yn gyfan gwbl erbyn mis Awst, gan alluogi pob busnes, fel clybiau nos, i ailagor yn gyfan gwbl.

Serch hynny, mae’r Prif Weinidog wedi pwysleisio y bydd rhai o’r rheolau rydym wedi arfer byw gyda nhw yn parhau mewn grym am y tro.

Bydd hyn yn cynnwys yr angen i barhau i wisgo mygydau mewn nifer o fannau cyhoeddus dan do gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â’r cyngor i weithio o adref pan yn bosib.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.