Newyddion S4C

Yr Alban yn symud i gyfyngiadau Lefel Sero

The Scotsman 19/07/2021
Glasgow

Mae'r Alban wedi symud i'r lefel isaf o gyfyngiadau Covid-19 wrth i'r wlad barhau ar eu llwybr allan o gyfnod clo.

Hyd yn hyn dim ond rhai ynysoedd oedd wedi bod ar lefel sero ond roedd gweddill y wlad ar lefel un neu lefel dau.

Mae'r symud i lefel sero yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfarfod y tu fewn a mynychu priodasau ac angladdau.

Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau ar gyfarfod yn yr awyr agored, ac mae gwisgo mygydau am fod yn orfodol am "beth amser".

Mae cau tafarndai a chlybiau nos wedi bod yn "niweidiol i les meddyliol" yn yr Alban yn ôl ymchwil, medd The Scotsman.

Dywedodd bron i ddwy ran o dair o oedolion (62%) eu bod â theimladau o unigrwydd, eu bod yn teimlo'n gaeth i’w cartrefi a'u bod yn methu cwrdd â ffrindiau, yn ôl arolwg YouGov ar gyfer y Gynghrair Ryngwladol ar gyfer Yfed Cyfrifol.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.