Newyddion S4C

‘Diwrnod Rhyddid’ i Loegr wrth i gyfyngiadau Covid-19 ddod i ben

Mirror 19/07/2021
Wochit

Mae mwyafrif o gyfyngiadau Covid-19 wedi dod i ben yn Lloegr ar ‘Ddiwrnod Rhyddid’ y Prif Weinidog.

Ni fydd yn rhaid i bobl yn y wlad wisgo mygydau rhagor, ond mae cyngor yn ei le ar gyfer eu gwisgo ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r gofyniad pellhau cymdeithasol o “un metr neu fwy” yn dod i ben, yn ogystal â’r cyfyngiadau ar y nifer o bobl sy’n cael ymgynnull gyda’i gilydd i gymdeithasu.

Er hynny, mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi dweud wrth bobl am "gymryd gofal" wrth i gyfyngiadau godi.

Gyda’r newid rai wythnosau o flaen amserlen weddill y Deyrnas Unedig, mae disgwyl y bydd ychydig o ddryswch ynglŷn â’r gwahanol gyfyngiadau.

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod yn “siomedig” na wnaeth Boris Johnson bwysleisio fod y newid yn berthnasol i Loegr yn unig.

Serch hynny, fe ddywedodd fod holl wledydd y Deyrnas Unedig ar yr “un llwybr”, ond yn llacio ar gyflymderau gwahanol.

Mae newidiadau yn eu lle ar gyfer ysgolion hefyd, gyda swigod yn dod i ben, a dim ond y plentyn sy’n profi’n bositif fydd yn gorfod hunanynysu o ddydd Llun ymlaen.

Gyda’r ysgolion ar gau dros wyliau’r haf yn Lloegr, bydd rhaid aros cyn gweld os bydd newid i’r polisi hwn dros yr wythnosau nesaf.

Ar ôl misoedd hir yn y tywyllwch, bydd clybiau nos Lloegr yn cael agor unwaith eto – ond mae’r llywodraeth wedi eu hannog i ddefnyddio tystiolaeth o statws Covid-19 unigolyn, megis prawf negatif.

Mae’r newidiadau yn berthnasol i Loegr yn unig, gyda’r adolygiad nesaf yng Nghymru yn digwydd ddechrau Awst.

Darllenwch y stori'n llawn gan The Mirror yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.