Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau'r bore

16/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Gwener, 16 Gorffennaf.

Yr Almaen yn ceisio ymdopi gyda thrychineb llifogydd 'unwaith mewn oes'

Mae o leiaf 92 o bobl wedi marw a degau o bobl ar goll ar ôl i law trwm achosi llifogydd eithafol yn Yr Almaen a Gwlad Belg. Mae o leiaf 81 o'r marwolaethau wedi eu cadarnhau yn Yr Almaen, yn ôl y darlledwr ARD, gyda'r Canghellor Angela Merkel yn disgrifio'r sefyllfa fel "catastroffi". Mae Cymro sydd yn byw yn y wlad wedi dweud wrth Newyddion S4C bod pobl "mewn sioc".

Rhybudd prif swyddog meddygol wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio

Mae prif swyddog meddygol Llywodraeth y DU wedi galw ar bobl i fod yn ofalus wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio. Bydd Cymru yn llacio rhai cyfyngiadau ddydd Sadwrn, gyda'r mwyafrif o gyfyngiadau yn cael eu llacio yn Lloegr ddydd Llun nesaf. Mae Dr Chris Whitty wedi dweud nad yw Prydain "allan o'r gwaethaf" eto, ac fe allai niferoedd cleifion Covid-19 mewn ysbytai gyrraedd niferoedd "eithaf brawychus".

Galw am weithredu brys i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl

Mae elusen iechyd meddwl wedi galw am weithredu brys gan lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gwaethygu oherwydd y pandemig. Roedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn cael eu disgrifio fel bod mewn creisis er gwaethaf ymdrechion y gweithlu, yn ôl Mind Cymru, ac mae ymchwil newydd gan yr elusen yn awgrymu bydd mwy o straen eto ar y gwasanaethau rheiny o ganlyniad i’r pandemig. Mewn datganiad, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd.

'Tensiynau parhaus' rhwng yr Heddlu ac erlynwyr mewn achosion treisio

Mae ymateb y system gyfiawnder troseddol i honiadau o dreisio wedi ei lygru â phasio'r bai a "phwyntio bys" rhwng yr heddlu ac erlynwyr, medd adroddiad gan arolygwyr. Mae yna “raniadau dwfn” a “chyfathrebu gwael” rhwng heddluoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag erlyniadau treisio ac euogfarnau, meddai’r adroddiad newydd.

Covid hir: Adnabod dros 200 o symptomau

Mae'r astudiaeth ryngwladol fwyaf erioed o bobl â Covid hir wedi adnabod dros 200 o symptomau i'r cyflwr, gydag ymchwilwyr yn galw am gynllun sgrinio genedlaethol. Mae'r astudiaeth wedi darganfod bod symptomau Covid hir yn gallu effeithio 10 o organau'r corff, gyda thraean o'r symptomau yn effeithio pobl am o leiaf chwe mis.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.