Galw am weithredu brys i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl

Galw am weithredu brys i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl

Newyddion S4C

Mae elusen iechyd meddwl wedi galw am weithredu brys gan lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gwaethygu oherwydd y pandemig.

Roedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn cael eu disgrifio fel bod mewn creisis er gwaethaf ymdrechion y gweithlu, yn ôl Mind Cymru, ac mae ymchwil newydd gan yr elusen yn awgrymu bydd mwy o straen eto ar y gwasanaethau rheiny o ganlyniad i’r pandemig.

Mewn datganiad, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd.

Ddydd Iau, cyhoeddodd Mind Cymru adroddiad yn cynnwys ystadegau pryderus am effaith y pandemig a’r cyfnodau clo ar iechyd meddwl plant a phobl ifainc.

Dywedodd Nia Evans, rheolwr plant a phobl ifanc Mind Cymru, wrth raglen Newyddion S4C: “Ry’n ni’n ymwybodol iawn y bydd y pandemig ag effeithiau pellgyrhaeddol i iechyd meddwl pobl ifanc. Dyddiau cynnar yw hi o hyd o ran effaith y cyfnodau clo, ond mae mwy a mwy o dystiolaeth bod y rheiny wedi cael effaith anghyfartal ar bobl ifanc.”

Image
NS4C

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gyhoeddus i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ond mae hwnna i weld yn eithaf araf.

“Ry’n ni’n ymgyrchu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn clywed lleisiau’r bobl ifanc yma ac yn deall bod angen buddsoddi’n gyflym a sicrhau bod effeithiau’r buddsoddiad wir yn cael ei deimlo gan y bobl ifanc yma.”

Ond daw’r buddsoddiad a’r ymgyrchu yn rhy hwyr i rai.

Roedd Iwan Caudy o Ben-y-bont yn 20 oed pan bu farw ym mis Mai'r llynedd. Roedd wedi dioddef â phroblemau iechyd meddwl ers blynyddoedd, ond bu farw ar ôl cymryd gor-ddos o heroin.

“Ma' di bod yn uffernol o anodd, colli plentyn yw’r boen fwyaf ma' unrhyw un yn gallu mynd trwyddo,” meddai ei fam Tania Wear.

“Ma' eithaf tipyn o euogrwydd hefyd, ma' fe'n anodd dod drosto hwnna a trio ffeindio rheswm i gario mlaen.

Image
NS4C

Fe geisiodd Iwan ladd ei hun fis cyn iddo farw. Er iddo fynd i’r ysbyty, cafodd ei anfon nôl i’w gartref oherwydd y risg o ddal Covid-19.

Cafodd un apwyntiad gyda seiciatrydd hefyd ei ganslo oherwydd y pandemig. Ond mae ei deulu yn mynnu bod angen mwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol.

“Hyd yn oed heb Covid chi’n aros chwe mis, hyd yn oed deuddeg mis, cyn cael apwyntiad gyda seiciatrydd a ma' hwnna'n problem mawr i'r NHS.

“Ond fi ddim yn beio'r NHS, s'dim digon o arian gyda nhw.”

Yn ddisgybl disglair, bu Iwan yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Ond wedi symud o gartef, fe ddirywiodd ei iechyd meddwl. A’i deulu yn credu iddo droi at gyffuriau anghyfreithlon mewn rhwystredigaeth wrth geisio delio a’i deimladau.

Image
NS4C

“Os oedd ei broblemau wedi cymryd yn fwy difrifol o'r dechrau mwy na thebyg byddai dal yma heddiw,” meddai ei frawd Iolo.

“Y broblem yw bod yr NHS, yr adran iechyd meddwl, yn dodi plaster ar y problemau.

“Does dim digon o adnoddau ganddyn nhw i helpu, nes bod y broblem mor ddifrifol mae'n anodd helpu.”

Dyw’r teulu ddim yn gweld bai ar unrhyw un am farwolaeth Iwan, ond maen nhw yn galw am ariannu teg i wasanaethau iechyd meddwl a gwella ymwybyddiaeth o effeithiau problemau iechyd meddwl yn ein cymdeithas.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod nhw’n cydymdeimlo â theulu Iwan a bod sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y math cywir o gymorth ar gyfer eu hanghenion iechyd meddwl wedi bod yn flaenoriaeth iddynt yn ystod y pandemig.

"Ond rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn nodi’n glir y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym yn buddsoddi £42 miliwn o arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i wella cymorth iechyd meddwl.

"Er mwyn ymateb i effaith y pandemig ar iechyd meddwl bydd angen dull gweithredu amlochrog gan sawl asiantaeth ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Mind Cymru, i wneud hyn."