Newyddion S4C

Cyfri'r gost a'r colledion yn yr Almaen yn dilyn llifogydd 'trychinebus'

16/07/2021

Cyfri'r gost a'r colledion yn yr Almaen yn dilyn llifogydd 'trychinebus'

Mae dros 120 o bobl wedi marw a channoedd o bobl ar goll ar ôl i law trwm achosi llifogydd eithafol yn Yr Almaen a Gwlad Belg.

Mae o leiaf 81 o'r marwolaethau wedi eu cadarnhau yn Yr Almaen, yn ôl y darlledwr ARD, gyda'r Canghellor Angela Merkel yn disgrifio'r sefyllfa fel "trychineb".

"Rwy'n galaru am y rhai hynny sydd wedi colli eu bywydau yn y trychineb hwn," dywedodd Ms Merkel.

Dywed yr awdurdodau yng Ngwlad Belg fod 22 o bobl wedi marw o ganlyniad i'r llifogydd yno hyd yma, ac mae rhannau o'r Iseldiroedd, y Swistir a Lwcsembwrg hefyd wedi eu heffeithio.

Yn ôl adroddiadau, cafodd tywydd eithafol ei achosi yn sgil gwasgedd isel yn symud yn araf, gan achosi llifogydd “unwaith mewn oes”.

Mae Chris Suff, sydd yn wreiddiol o Orseinon, wedi byw yn Frankfurst am bron i 23 mlynedd.

Mae’r ddinas awr a hanner i ffwrdd o’r ardal sydd wedi cael ei heffeithio gan lifogydd.

“Fi’n credu mae pob un mewn sioc,” dywedodd Mr Suff.

“Mae eisiau helpu rhyw ffordd – bydd lot o pobol yn edrych am le i fyw yn yr wythnose’ nesaf.

“Neith hi gymryd amser i adeiladu’r tai sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd.”

Image
Chris Suff

Mae Chris Suff yn credu y bydd y digwyddiad yn effeithio agweddau’r Almaenwyr at newid hinsawdd a’r amgylchedd.

“Mae’r problem yn newid hinsawdd yn dod yn fwy pwysig ‘wi’n credu o gefn y llifogydd,” ychwanegodd.

“Mae Etholiad Cyffredinol yr Almaen yn mis Medi – bydd mater newid hinsawdd yn dod yn bwysicach ‘wi’n credu.”

Cymru'n 'cydymdeimlo'

Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhoi teyrnged i'r rhai sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd Mark Drakeford: "Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd erchyll dros rannau o Ewrop. 

"Ar ran bobl Cymru, hoffaf gydymdeimlo a theuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi colli eu bywydau."

Mae Prif Weinidog y DU hefyd wedi dweud y bydd Prydain yn barod i gynnig "unrhyw gefnogaeth sydd ei angen" i'r gwledydd sydd wedi eu heffeithio.

Dywedodd Boris Johnson: "Mae hi'n frawychus gweld y llifogydd dinistriol ar draws yr Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae fy meddyliau gyda theuluoedd y dioddefwyr a phawb sydd wedi cael eu heffeithio. Mae'r DU yn barod i ddarparu unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen yn yr ymdrech achub ac adfer."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.