'Tensiynau parhaus' rhwng yr Heddlu ac erlynwyr mewn achosion treisio
Mae ymateb y system gyfiawnder troseddol i honiadau o dreisio wedi ei lygru â phasio'r bai a "phwyntio bys" rhwng yr heddlu ac erlynwyr, medd adroddiad gan arolygwyr.
Mae yna “raniadau dwfn” a “chyfathrebu gwael” rhwng heddluoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag erlyniadau treisio ac euogfarnau, meddai’r adroddiad newydd.
Daw hyn wedi adolygiad treisio’r llywodraeth, a ymddiheurodd am eu "methiant" i ddioddefwyr, ddatgelu bod gostyngiad o 62% wedi bod mewn euogfarnau a gostyngiad o 47% o gyhuddiadau wedi bod dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Dywed yr adroddiad, a gafodd ei gynnal gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM ac Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron EM, fod "tensiynau parhaus" rhwng heddluoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Ronnie Macdonald