Newyddion S4C

Dyn wedi'i gyhuddo o geisio herwgipio mewn parc yng Nghaerdydd

Parc Fictoria, Treganna

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o geisio herwgipio ar ôl i'r heddlu gael eu galw i barc dŵr plant yn y brifddinas.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Barc Fictoria yn Nhreganna am tua hanner dydd, ddydd Iau ar ôl nifer o adroddiadau yn codi pryderon ynghylch ymddygiad dyn wrth bwll dŵr i blant.

Roedd rhai'n pryderu bod y dyn wedi bod yn tynnu lluniau neu'n recordio plant yn y parc, ond dywedodd swyddogion nad oedd ganddo ddyfeisiau o'r fath ar ôl ei chwilio.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y dyn 34 oed, heb gartref sefydlog, hefyd wedi cael ei gyhuddo o ddau drosedd trefn gyhoeddus a'i gadw yn y ddalfa.

Llun: Awyr Agored Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.