Newyddion S4C

‘Mae realiti, mae nerfau’: Tîm Cymru’n adlewyrchu ar y gêm wnaeth greu hanes

Tîm Cymru v Yr Iseldiroedd

Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed menywod Cymru Rhian Wilkinson yn ffyddiog y gall eu chwaraewyr daro nôl o’r siom o golli o 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd yn eu gêm agoriadol yn Euro 2025 yn y Swistir nos Sadwrn.

Dyma oedd y gêm wnaeth greu hanes gydag ymddangosiad y tîm mewn prif gystadleuaeth ryngwladol am y tro cyntaf.

Dywedodd Rhian Wilkinson ar ôl y gêm, er roedd yr awyrgylch yn arbennig, roedd y gêm yn un “anodd” iddyn nhw a bod nerfau wedi chwarae eu rhan ym mherfformiad Cymru.

Dywedodd: “Roedd hi'n anodd, roedd yr awyrgylch yn anhygoel.

“Cawson ni eiliadau ond dim digon ohonyn nhw.

Image
Rhian Wilkinson
Rhian Wilkinson

“Wnaethon ni ddim creu digon wrth symud ymlaen. 

"Ar gyfer ein gêm gyntaf, gwylio'r tîm yn tyfu i mewn iddi ac yn gorffen mewn ffordd gadarnhaol.

“Mae gennym ni ddisgwyliadau uchel ohonom ni ein hunain a byddwn ni'n parhau i gael disgwyliadau uchel.

“Ond mae realiti, mae nerfau ac mae'r teimlad cyntaf hwn o'r gêm hon o'r gêm ond rwy'n gobeithio eu bod nhw'n teimlo y gallan nhw chwarae'n gadarnhaol yn enwedig o ystyried 20 munud olaf yr ail hanner lle roedden ni'n dechrau chwarae."

Dywedodd capten Cymru Angharad James: “Dwy gêm i ddod a gallwn dysgu sut gymaint o’r gêm hyn.

"Odd y foment yma mor fawr i bawb falle oedd yr occasion wedi cymryd lot allan ohonon ni o’n i ddim yn disgwyl.

Image
Angharad James
Angharad James

“Gobeithio gallwn ni gael gwell perfformiad yn y ddwy gêm nesaf.”

Fe fydd talcen caled arall gan y Cymry yn erbyn Ffrainc nos Fercher yn St Gallen, yn enwedig ar ôl i’r Ffrancwyr guro Lloegr o 2-1 yn hwyrach nos Sadwrn.

Os fydd Cymru’n colli eto yn erbyn Ffrainc yna fe fydd y twrnamaint ar ben iddyn nhw cyn eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn. 

Fe fydd Lloegr yn herio’r Iseldiroedd nos Fercher a, gan ddibynnu ar y canlyniad yna, efallai y bydd angen ar Loegr i guro Cymru er mwyn parhau â’u gobeithion hwythau o ddal eu gafael ar y teitl fel pencampwyr.

Barod amdani

Wrth edrych ymlaen i’r gêm yn erbyn Ffrainc ychwanegodd Rhian Wilkinson: “Byddwn ni'n rhoi cystal ag sydd gennym ni.

“Does dim gêm hawdd. 

"Mae angen i ni gamu ymlaen a chyflawni hyd eithaf ein gallu. 

"Mae'n rhaid i ni wneud i'n heiliadau gyfrif.

“Byddai'n well gen i golli o fwy na gadael i dimau ddod atom ni.”

'Adeiladu'

Dywedodd cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones: “Dwi’n credu nathon ni ddangos lot fawr o gymeriad ar ôl ildio’r drydydd [yn erbyn Yr Iseldiroedd].

"Ddylia fo ddim fod yn rhy anodd i godi’r chwaraewyr.

Image
Sgorio
Sioned Dafydd yn holi'r cyn chwaraewyr Cymru, Owain Tudur Jones a Gwennan Harries (Llun: Sgorio)

"Roedd 'na gymaint o adeiladu lan at y gêm gyntaf, mae misoedd o baratoadau wedi bod a ‘da nhw heb gael lot o amser i feddwl am y gêm nesa. 

“Ond mae’n dod yng nghanol wythnos felly jyst neud siwr eu bod nhw’n ymlacio a gwneud yn siwr bod y tensiwn sydd yn y coesau yn well dros y dyddie nesa.

"Fydda nhw’n barod amdani heb os."

Dywedodd cyn-chwaraewr Cymru Gwennan Harries: “Fydd pawb yn llygadu’r triphwynt yn erbyn Cymru ond gall hwnna fod o fantais sy’n golygu eu bod nhw’n mynd i ymosod gyda llwyth o niferoedd sy’n mynd i rhoi mwy o le mewn tu cefn i Gymru."

Fe fydd gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn fyw ar S4C nos Fercher gyda’r gic gyntaf am 20:00.

Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.