Newyddion S4C

Ymddeol fel Archesgob Cymru y penderfyniad 'cywir i'r eglwys a minnau', meddai Andy John

Ymddeol fel Archesgob Cymru y penderfyniad 'cywir i'r eglwys a minnau', meddai Andy John

Mae cyn Archesgob Cymru wedi dweud fod ei benderfyniad i ymddeol ar unwaith oedd yr “ymateb cywir” iddo ef ac i’r eglwys.

Ar 27 Mehefin, fe wnaeth y Gwir Parchedicaf Andrew John gyhoeddi y byddai’n ymddeol o’r rôl ar unwaith, ac yn ymddeol fel Esgob Bangor ar ddiwedd mis Awst.

Daw’r penderfyniad yn dilyn cyfnod anodd i Esgobaeth Bangor ar ôl cyhoeddi ym mis Mai, grynodebau o ddau adroddiad yn ymwneud â methiannau yn yr esgobaeth.

Roedd y crynodebau’n cyfeirio at "ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur," yfed alcohol yn ormodol, a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu. 

Doedd yr Eglwys ddim am gyhoeddi'r adroddiadau llawn am resymau cyfrinachedd.

Nid oes unrhyw awgrym bod Andy John wedi camymddwyn.

Yr wythnos hon, fe wnaeth yr Eglwys yng Nghymru hefyd gadarnhau iddyn nhw gyfeirio honiad o gam-drin plentyn yn rhywiol yn esgobaeth Bangor i'r heddlu yn 2020

'Heriol'

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru, fod y broses yn arwain at y penderfyniad wedi cael effaith ar ei iechyd meddwl.

“Mae o wedi bod yn wythnos anodd iawn iawn ac yn heriol,” meddai Mr John, a gafodd ei ethol yn Archesgob Cymru yn Rhagfyr 2021.

“Wedi meddwl am y pethau sydd ‘di digwydd, dwi yn hollol siŵr mai’r penderfyniad i ymddeol yw’r ymateb cywir i mi ond i’r eglwys hefyd.”

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad i’r esgobaeth, fe ffurfiwyd grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio gan yr Eglwys i wneud gwelliannau ac i weithredu’r argymhellion.

Ar ôl i rai galw am ymddiswyddiad yr Archesgob, cynigiodd ei "ymddiheuriad diffuant i unrhyw aelodau o gymuned y gadeirlan sydd wedi’u brifo neu sy’n teimlo fy mod wedi eu siomi".

"I fod yn bresennol yn y cyfarfod ac i glywed pobl bron yn gofyn am eich ymddiswyddiad, roedd e'n hunllefus.

"Dwi'n 'nabod y bobl yn y corff yna, a dwi'n meddwl na ches i'r cyfle i sôn am y newidiadau ry'n ni 'di gwneud yn y Gadeirlan a'r Esgobaeth, nac egluro pa mor gymhleth yw pethau.

“Ond wedi clywed ganddynt dwi ddim am fod yn broblem i'r fainc chwaith.”

'Diwylliant yfed'

Dywedodd hefyd ei fod wedi synnu yn dilyn cyhuddiadau  o “ddiwylliant yfed” yng nghôr Cadeirlan Bangor.

Image
Cadeirlan Bangor
Mae dau adroddiad wedi amlinellu 'methiannau' yn esgobaeth Bangor

“Roedd hi'n sioc i glywed am oryfed yn y gadeirlan.

"Mae'r syniad, ar ôl gwasanaethau mawr, bod y côr yn mynd allan yn hwyr yn newyddion trist i fi - trist iawn, iawn.

"Oherwydd mae beth sy'n digwydd tu allan i'r Sul yn adlewyrchu ar beth sy'n digwydd ar y Sul hefyd.

"Mae'n rhoi'r argraff fod beth sy'n digwydd yn y gadeirlan yn ofnadwy.”

Diwygiadau

Yr wythnos yma, cadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru y byddai cyfres o adolygiadau ac archwiliadau yn digwydd. 

Ddywedon nhw byddai hynny'n cynnwys adolygiad llywodraethiant o'r Eglwys yng Nghymru ac archwiliad o holl gadeirlannau'r wlad er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd.

Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys wedi galw ar awdurdodau esgobaeth a Chadeirlan Bangor i gydymffurfio ag ystod eang o ddiwygiadau sylfaenol gan gynnwys ym meysydd rheoli ariannol, diogelu, adnoddau dynol a phrosesau ar gyfer chwythwyr chwiban.

Bydd Archwiliad Diogelu Allanol o holl gadeirlannau Cymru yn cael ei gomisiynu i sicrhau bod gweithdrefnau a phrotocolau priodol sy'n ymwneud â diogelu yn cael eu dilyn yn ddiwyd.

Mae ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru hefyd wedi rhybuddio bod ariannu esgobaeth a Chadeirlan Bangor at y dyfodol yn "dibynnu'n llwyr" ar eu bod nhw'n hapus bod gweithdrefnau rheoli ac ariannu addas yn eu lle yn ogystal â gweithdrefnau gweinyddol i sicrhau llywodraethiant effeithiol.

Fe ychwanegodd Mr John: "Dwi wedi bod yn ffynnon o dramgwydd - o dan fy ngoruchwyliaeth mae pethe’ wedi digwydd ac mae'n rhaid i fi fyw hynny yn y dyfodol hefyd.

"Mae Esgobaeth Bangor yn lle ffantastig - mae'r anafiadau sydd wedi eu gwneud i'r esgobaeth oherwydd y diffyg sylw 'nes i roi at y problemau yn faich arna' i."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.