Archesgob Cymru yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar unwaith
Archesgob Cymru yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar unwaith
Mae Archesgob Cymru, Andy John, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar unwaith.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd nos Wener, cadarnhaodd y bydd hefyd yn ymddeol fel Esgob Bangor ar ddiwedd mis Awst.
Mae ei ymddeoliad sydyn yn dilyn cyfnod anodd i Esgobaeth Bangor ar ôl cyhoeddi, fis diwethaf, grynodebau o ddau adroddiad yn ymwneud â methiannau yn yr esgobaeth.
Roedd y crynodebau’n cyfeirio at "ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur," yfed alcohol yn ormodol, a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu. Nid yw’r adroddiadau llawn wedi’u cyhoeddi.
Fe ffurfiwyd grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio gan yr Eglwys i wneud gwelliannau ac i weithredu’r argymhellion.
Ar ôl i rai alw am ymddiswyddiad yr Archesgob, cynigiodd ei "ymddiheuriad diffuant i unrhyw aelodau o gymuned y gadeirlan sydd wedi’u brifo neu sy’n teimlo fy mod wedi eu siomi".
Pan holodd Newyddion S4C yr Eglwys am adroddiadau o ddigwyddiadau difrifol y dywedwyd eu bod wedi’u cyflwyno i’r Comisiwn Elusennau, datgelwyd bod chwe adroddiad o’r fath wedi’u cyflwyno mewn ychydig dros flwyddyn mewn perthynas ag elusennau sy’n gysylltiedig ag esgobaeth a Chadeirlan Bangor.
Mae’r Comisiwn bellach wedi cadarnhau ei fod wedi lansio achos cydymffurfio rheoleiddiol i'r elusennau.
Mae dau offeiriad yn Eglwys Gadeiriol Bangor hefyd wedi galw’n gyhoeddus am ymchwiliad annibynnol i’r Gadeirlan a’r Esgobaeth.
Mae Newyddion S4C wedi gweld llythyrau gan aelodau eraill o’r Eglwys yn galw ar awdurdodau’r Eglwys i lansio ymchwiliad o’r fath. Cadarnhaodd yr Aelod Seneddol dros Arfon sy’n cynnwys dinas Bangor, Siân Gwenllian, yr wythnos hon ei bod hi hefyd wedi ysgrifennu at yr Archesgob ac arweinwyr eraill yr Eglwys yn cefnogi’r galwadau hynny.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1937527312699797542
Ddydd Mawrth, ar ôl i gyfres o geisiadau am gyfweliad gael eu gwrthod, holodd Newyddion S4C yr Archesgob wrth iddo wneud ei ffordd i gyfarfod yng Nghaerdydd i drafod y sefyllfa ym Mangor. Gwrthododd ateb unrhyw gwestiynau na chwaith rhoi unrhyw sylw ar y sefyllfa yn ei esgobaeth.
Ar ôl cyfarfod hir i drafod y sefyllfa o fewn Esgobaeth Bangor, mae Newyddion S4C yn deall bod y Corff Cynrychiolwyr, sef ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru, wedi llunio ac wedi cytuno ar ddatganiad yn datgan nad oedd ganddynt ffydd yn arweinyddiaeth Esgobaeth Bangor.
Rydym yn deall bod yr Archesgob wedi gwneud cais i newid y datganiad ond gwrthodwyd y cais hwnnw gan yr ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, fe roddwyd amser iddo i drafod goblygiadau’r datganiad gyda rhai sydd yn agos ato.
Nid yw'r Eglwys yng Nghymru am wneud sylw am y cyfarfod Ddydd Mawrth
'Diolch gwresog'
Heno, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad yn diolch i Andy John am ei wasanaeth. Nid oedd sôn am ddigwyddiadau diweddar yn Esgobaeth Bangor.
Dywedodd y Parchedicaf Andrew John ei fod wedi "bod yn llawenydd enfawr i wasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru ers dros 35 mlynedd" ac fe ddiolchodd i "offeiriaid a chynulleidfaoedd yr esgobaeth wych hon".
Dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru, ar ran Mainc yr Esgobion:
"Wrth i'r Archesgob Andrew gyhoeddi ei ymddeoliad heddiw fel Archesgob Cymru a'i ymddeoliad fel Esgob Bangor maes o law, mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru am fynegi ein diolch gwresog am ei wasanaeth i'r Eglwys yn ystod ei weinidogaeth.
"Mae Andy wedi cysegru dros bum mlynedd ar hugain o'i fywyd i weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu gydag ymroddiad ac egni i gyhoeddi'r Efengyl Gristnogol a denu pobl at ffydd ddyfnach yn Iesu Grist.
“Mae wedi rhoi cymaint er lles yr Eglwys yng Nghymru. Mae bellach yn ildio’i gyfrifoldebau sylweddol, a hynny yn yr un ysbryd sydd wedi nodweddu ei wasanaeth dros y degawdau hyn.
"Rydym yn cynnig diolch diffuant, ac yn ymrwymo i'w gadw ef a'i deulu yn ein gweddïau ar yr adeg hon ac yn y dyddiau i ddod."
Dywedodd Medwin Hughes, Cadeirydd y Corff Cynrychiolwyr, “hoffwn ddiolch iddo ar ran Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru am ei waith caled, ei ymroddiad a'i weledigaeth yn ystod ei gyfnod fel Archesgob Cymru ac Esgob Bangor.
“Mae'r Archesgob wedi arwain yr Eglwys trwy gyfnod o newid a her enfawr. Trwy gydol ei amser yn y swydd, mae wedi dangos ei ofal dwys dros lesiant, nid yn unig yr Eglwys ei hun, ond ein cymdeithas a'r byd fel y cyfryw.”
“Gwn y bydd pawb sydd wedi gweithio gyda'r Archesgob yn ystod ei weinidogaeth wedi cael eu cyffwrdd gan ei ofal bugeiliol a'i ymroddiad dwfn i wella bywyd yr Eglwys yng Nghymru a'r gymuned ehangach.
“Wrth iddo bellach drosglwyddo'r gwaith hwnnw i ddwylo eraill, rwyf am ddiolch yn ddiffuant am bopeth y mae wedi'i gyflawni, a mynegi fy edmygedd o ddidwylledd ei weinidogaeth dros bobl Cymru. Bydd pob aelod o Gorff y Cynrychiolwyr yn parhau i gadw’r Archesgob a'i deulu yn eu gweddïau.”
Daeth Andy John yn Esgob Bangor yn 2008 ac fe’i hetholwyd yn Archesgob Cymru ym mis Rhagfyr 2021.
Ef yw’r bedwaredd ar ddeg i ddal y teitl.
Llun: Yr Eglwys yng Nghymru