Arestio pedwar ar ôl i gerddwr ddioddef ‘anafiadau difrifol’ mewn gwrthdrawiad
Mae pedwar o bobl wedi eu harestio ar ôl i gerddwr ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad â char yn dilyn cyngerdd yn Llangollen.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd fod y cerddwr, dyn 21 oed, mewn cyflwr difrifol mewn uned trawma yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A542 Bwlch yr Oernant am tua 23:00 nos Wener yn dilyn cyngerdd gan Olly Murs ym Mhafiliwn Llangollen.
Dywedodd y Rhingyll Daniel Rees o'r Uned Troseddau Ffyrdd: “Hoffwn apelio am dystion, ac at unrhyw un sydd â lluniau camera dashfwrdd, a oedd yn ardal Bwlch yr Oernant, Llangollen nos Wener.
“Rwy'n gwybod bod yr ardal yn arbennig o brysur gyda phobl wedi gadael cyngerdd Olly Murs ym Mhafiliwn Llangollen ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd ddigwyddiad yn ymwneud â cherddwr a Vauxhall Corsa coch.
“Os oes gennych gamera dashfwrdd ac wedi teithio'r llwybr hwnnw ar ôl y cyngerdd, rhowch eich lluniau i ni.”
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu gyda’r llu gan ddyfynnu cyfeirnod 25000551605.