Newyddion S4C

'Byddwn i wedi bod yn derfysgwr dan gyfraith heddiw,' medd yr Arglwydd Peter Hain

Peter Hain / Palestine Action

Mae’r Arglwydd Peter Hain wedi dweud y gallai fod wedi cael ei ystyried yn ‘derfysgwr’ yn y 1960au petasai ddeddfwriaeth y llywodraeth heddiw yn bodoli bryd hynny.

Ddydd Sadwrn, cafodd grŵp Palestine Action ei ddynodi fel grŵp terfysgol dan y Ddeddf Terfysgaeth 2000, a hynny ar ôl i ymgyrchwyr golli yn eu hymgais i geisio atal y grŵp rhag cael ei wahardd yn y Llys Apêl yn hwyr nos Wener.

Cafodd 29 o bobl eu harestio yng nghanol Llundain ddydd Sadwrn ar amheuaeth o droseddau terfysgol ar ôl dangos cefnogaeth i’r grŵp.

Roedd nifer o brotestwyr yn dal arwyddion yn datgan eu cefnogaeth i’r grŵp, a hynny ar ôl i’r gwaharddiad dod i rym.

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales fore Sul, dywedodd y cyn Aelod Seneddol dros Gastell-nedd ei fod yn ‘anghytuno’n llwyr’ gyda phenderfyniad y Llywodraeth i osod y grŵp ar y rhestr o grwpiau terfysgol.

Cafodd y cynnig i wahardd y grŵp ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin gan yr Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, ar ôl i ymgyrchwyr fandaleiddio dwy awyren yng nghanolfan RAF Brize Norton fis diwethaf.

Fe wnaeth ASau bleidleisio 385 i 26 o blaid y cynnig i ddynodi’r grŵp fel grŵp terfysgol.

Dywedodd yr Arglwydd Hain: “Rwy'n cefnogi hawl Israel i gael diogelwch llawn i fodoli fel gwladwriaeth, yn ogystal â chefnogi hawl Palestina i hunanbenderfyniad. Rwyf hefyd yn gwrthwynebu'r wrth-semitiaeth a oddefwyd o dan Jeremy Corbyn, arweinyddiaeth anffodus y Blaid Lafur.

“Ond yn yr un modd, mae’r hyn sydd yn digwydd yn Gaza ar hyn o bryd yn gwbl annioddefol, ac roedd y protestwyr heddychlon hynny'n ceisio tynnu sylw at hynny.

“A phan fyddwch chi'n dynodi grŵp protest Palestine Action, ac nid wyf erioed wedi cefnogi ei weithgareddau, fel grŵp terfysgol sy'n cyfateb i'r Wladwriaeth Islamaidd neu Al Qaeda, yna rydych chi'n cyrraedd y tir llithrig lle mae protestwyr heddychlon yn cael eu dal ganddo.”

Fe wnaeth Mr Hain gymharu gweithredoedd y grŵp gyda’i weithredoedd fel ymgyrchydd gwrth apartheid yn ne Cymru yn y 1960au a 1970au, wrth arwain y grŵp Stop the Seventy Tour.

“Os ydych chi’n edrych yn ôl i’r broses wrth apartheid, gan gynnwys y rhai wnes i arwain, roeddwn i’n cael fy meirniadu’n hallt ar y pryd.

“A heb os, petasai’r gyfraith hon yn bodoli, byswn i wedi cael fy nynodi, a’r ymgyrch Stop the Seventy Tour yr oeddwn i’n arwain, wedi cael ei ddynodi’n grŵp terfysgol, er ein bod ni’n cynnal gweithgareddau uniongyrchol, nad oedd yn dreisgar, yn rhedeg ar gaeau rygbi a chriced, fel y gwnaethom er enghraifft yn San Helen yn Abertawe yn Nhachwedd 1969, i roi stop ar dimau hiliol, gwyn i gyd Springboks De Affrica, rhag chwarae. Ac fe wnaethon ni lwyddo.”

Gan gyfeirio at weithgareddau Palestine Action ar 20 Mehefin, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref mewn datganiad bod y grŵp wedi ymosod ar “ddiogelwch cenedlaethol” y wlad.

“Yr ymosodiad gwarthus ar Brize Norton yw'r digwyddiad diweddaraf mewn hanes hir o ddifrod troseddol annerbyniol a gyflawnwyd gan Palestine Action,” meddai. 

“Mae rhwydwaith amddiffyn y DU yn hanfodol i ddiogelwch cenedlaethol y genedl ac ni fydd y llywodraeth hon yn goddef y rhai sy'n peryglu'r diogelwch hwnnw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.