Cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu 850 mlynedd ers yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf

Eisteddfod

Fe fydd cyfres o ddathliadau arbennig yn cael eu cynnal dros yr haf i nodi 850 mlynedd ers i'r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf gael ei chynnal. 

Fe gafodd yr Eisteddfod honno ei chynnal gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd yng Nghastell Aberteifi yn 1176

Fe fydd y digwyddiadau yn dod â stori'r Eisteddfod gyntaf yn fyw drwy weithgareddau addysgol, creadigol a chymunedol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r nod yw i ysbrydoli pobl i ddefnyddio'r Gymraeg a chymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol. 

Fe fydd Eisteddfod y Garreg Las eleni yn cael ei chynnal yn Llantwd, lai na phedair milltir o safle Eisteddfod 1176.

Mae'r digwyddiadau yn cynnwys pererindod dan arweiniad pyped enfawr o’r Arglwydd Rhys yn ymweld â phentrefi o amgylch y dalgylch wrth deithio o Dyddewi i Gastell Aberteifi.

Bydd wythnos yr Eisteddfod (1-8 Awst) hefyd yn cynnwys pob math o weithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu cyrraedd yr 850 mlynedd. 

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: ”Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn ein galluogi ni i nodi pen- blwydd mor arbennig yn hanes yr Eisteddfod. Bydd elfennau gweladwy iawn i’r cynllun, ac yn sicr fe fydd yr orymdaith ar draws y dalgylch yn sicr o godi ymwybyddiaeth am yr ŵyl, ein hiaith a’n diwylliant wrth deithio.

“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth i’n gwaith yn y maes cynaliadwyedd, sy’n elfen hollbwysig o brosiect yr Eisteddfod."

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r Eisteddfod wedi siapio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ers cenedlaethau, gan ysbrydoli rhai o'n hartistiaid mwyaf talentog a chefnogi cymunedau lleol a'r economi ehangach.

"Rwy'n falch o gefnogi'r digwyddiadau pen-blwydd hyn. Maent yn anrhydeddu'r gorffennol, yn dathlu'r iaith a'r diwylliant Cymraeg heddiw, ac yn cyflwyno'r Eisteddfod i gynulleidfaoedd newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.