Comisiynydd y Gymraeg: Angen i Lywodraeth nesaf Cymru 'weithredu yn fwriadol' i gynyddu siaradwyr
Mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu yn fwriadol ac uchelgeisiol er mwyn sicrhau rhagor o siaradwyr Cymraeg yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Dywed yr adroddiad fod nifer y siaradawyr Cymraeg wedi aros yn weddol gyson dros bedwar degawd, ond fod y boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol "gan adael sefyllfa'r Gymraeg yn fwy bregus, yn ddi-os".
Mae hyn yn golygu yn ôl yr adroddiad nad yw'r twf yn y boblogaeth wedi arwain at dwf yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Mae'r Comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, yn nodi tri chyfle y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg i'r dyfodol.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Creu siaradwyr Cymraeg hyderus drwy’r gyfundrefn addysg
- Cryfhau’r defnydd cymunedol o’r Gymraeg
- Creu gweithleoedd sy’n cefnogi’r Gymraeg
O fewn y tri maes hwn, mae deg prif flaenoriaeth gan y Comisiynydd i wneud "gwahaniaeth gwirioneddol i sefyllfa'r Gymraeg".
Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys gwella cyfraddau trosglwyddo'r Gymraeg o un genhedlaeth i'r llall, creu gweithlu addysg cynyddol ddwyieithog, cynnig llawer mwy o gyfleoedd, yn arbennig i blant a phobl ifanc, i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned ac atal dirywiad pellach y Gymraeg yn yr ardaloedd lle mae ei sefyllfa ar ei chryfaf.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffydd Jones: "Rwy’n cyhoeddi’r adroddiad hwn ar drothwy etholiad Senedd 2026, etholiad arwyddocaol yn ein hanes ni fel cenedl.
"Beth bynnag a ddigwydd o ran y pleidleisiau, rydym yn gwybod i sicrwydd y bydd gennym ni, am y tro cyntaf, 96 Aelod Senedd yn cynrychioli pobl Cymru.
"Bydd yr aelodau hynny yn cynrychioli etholaethau newydd, etholaethau sydd ag enwau Cymraeg yn unig iddynt – arwydd symbolaidd yn ei hun o hyder a balchder cenedlaethol yn ein hiaith."
Ychwanegodd: "Ond nid yw symboliaeth yn ddigonol. Mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu yn bwrpasol ac yn gadarnhaol er lles y Gymraeg gan gyflwyno ymyraethau beiddgar o blaid yr iaith.
"Dyma’r unig ffordd i drawsnewid y sefyllfa bresennol os ydyn ni o ddifri am ddyblu’r defnydd dyddiol a chyrraedd y miliwn erbyn 2050.”
'Cipolwg un diwrnod'
Mae'r adroddiad hefyd yn dadansoddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â’r Gymraeg.
Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2021, 538,296 o siaradwyr Cymraeg oedd yng Nghymru yn 2021, sef gostyngiad o dros 23,000 ers 2011.
Ychwanegodd yr adroddiad mai "cipolwg un diwrnod" yw canlyniadau Cyfrifiad 2021 a hynny yng "nghyfnod digynsail" Covid-19.
Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylid ystyried dulliau eraill o fesur sefyllfa'r Gymraeg gan mai "rhan o’ darlun yn unig a gawn o fesur perfformiad drwy ganfod maint neu swm" a bod angen "casglu data mwy gwydn yn rheolaidd am sefyllfa’r Gymraeg."
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones: “Gwahoddiad yw’r adroddiad mewn gwirionedd i Lywodraeth newydd Cymru, aelodau Seneddol o bob plaid, llunwyr polisi a phob un ohonom sy’n ymddiddori yn y Gymraeg i ddarllen ein dadansoddiad o sefyllfa’r Gymraeg heddiw.
"Dim ond drwy oedi i ddeall ac ystyried sefyllfa’r Gymraeg heddiw y gallwn ni gynllunio’n effeithiol ar gyfer yfory."
Mae adran 5, rhan 2 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn creu dyletswydd statudol benodol i’r Comisiynydd lunio adroddiad bob pum mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg.
Mae'r adroddiad hwn yn adrodd ar y cyfnod o 1 Ionawr 2021 hyd at 31 Rhagfyr 2025.
'Camau trawsnewidiol'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Plaid Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru gymryd camau beiddgar a thrawsnewidiol i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg a symud tuag at filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
"Rhaid i'r iaith Gymraeg fod wrth wraidd pob polisi ac agenda ddeddfwriaethol, ac rydym yn barod i ddod â syniadau newydd, egni newydd ac ymdrechion newydd i wireddu'r weledigaeth honno."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'n batrwm pryderus yn yr 20 mlynedd cyn datganoli fod y nifer o siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu, ond mae'r niferoedd wedi bod yn gostwng yn y ddau ddegawd ers hynny.
"Nid yw’r targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn mynd i unman, gyda nifer yr athrawon sy’n siarad Cymraeg yn aros yr un fath a llai o bobl ifanc yn defnyddio’r Gymraeg."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Reform UK yng Nghymru fod yr "iaith Gymraeg yn rhan o dreftadaeth, diwylliant a hanes Cymru, ac mae'n hanfodol, pwy bynnag sy'n ennill ym mis Mai, ei bod hi'n cael ffynnu."
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd yng Nghymru: "Heb gamau ymarferol yn cael eu cymryd rwan, ni fydd targed hir-dymor o 1 miliwn o siaradwyr yn amddiffyn y defnydd dyddiol i Gymru.
"Rydym angen normaleiddio addysg Gymraeg, nid darpariaeth arbenigol sy'n brwydro i gael sylw os ydyn ni o ddifrif am gryfhau ein iaith unigryw. Mae'r llywodraeth angen adeiladu economïau cryf o fewn ardaloedd lle mai'r Gymraeg ydy'r iaith fwyafrifol."
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfryfol Cymru: "Mae Llafur wedi methu ag amddiffyn yr iaith Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw'r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2025 bellach ar y trywydd iawn.
"Er mwyn amddiffyn ac annog yr iaith Gymraeg, nid yn unig oes angen i ni wella addysg, ond hefyd mae angen mynd i'r afael â'r argyfwng diboblogi sy'n effeithio ar ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gryf a Chymru yn gyffredinol."