Menywod Cymru i ddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2027
Fe fydd menywod Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Brasil 2027 nos Fawrth, a hynny oddi cartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.
Bydd tîm Rhian Wilkinson yn dechrau'r ymgyrch i gyrraedd eu Cwpan y Byd cyntaf yn Uherske Hradiste.
Fe fydd y chwe gêm yn yr ymgyrch, sef tair gêm gartref a thair oddi cartref, yn cael eu chwarae ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mehefin.
Fe fydd Jess Fishlock yn ymuno â thim hyfforddi Cymru ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn y rowndiau rhagbrofol.
Fe wnaeth prif sgoriwr Cymru ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref, ond mae'n parhau i chwarae i dîm Seattle Reign yn America.
Ni fydd Fishlock yn bresennol ar gyfer yr ail gêm yn erbyn Montenegro bedwar diwrnod yn ddiweddarach a hynny oherwydd paratoadau Reign yn y tymor newydd fis Ebrill.
Mae timau Ewrop wedi eu gwahanu i mewn i dair cynghrair, A, B a C, gyda hyd at 12 tîm yn gallu cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Fe fydd enillwyr y pedwar grŵp yng Nghynghrair A yn sicrhau eu lle yn awtomatig, ond fe fydd yn rhaid i’r gweddill o’r timau barhau i frwydro am le drwy’r gemau ail gyfle.
Yn rhan o gynghrair B, fe fydd Cymru yn ceisio ennill eu lle ar frig eu grŵp, sef B1, er mwyn sicrhau llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail gyfle.
Fe fydd yna ddwy rownd o gemau ail gyfle, gyda saith tîm yn hawlio eu lle ym Mrasil yn y pen draw, tra bod yna gyfle i wythfed tîm gymhwyso drwy gêm ail gyfle yn erbyn gwlad o gyfandir gwahanol.
Ar ôl chwarae oddi cartref ddydd Mawrth bydd menywod Cymru yn chwarae adref ddydd Sadwrn nesaf yn erbyn Montenegro yn Llanelli.