Newyddion S4C

Rhybudd prif swyddog meddygol wrth i gyfyngiadau Covid-19 lacio

ITV Cymru 16/07/2021
NS4C

Mae prif swyddog meddygol Llywodraeth y DU wedi galw ar bobl i fod yn ofalus wrth i gyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.

Bydd Cymru yn llacio rhai cyfyngiadau ddydd Sadwrn, gyda'r mwyafrif o gyfyngiadau yn cael eu llacio yn Lloegr ddydd Llun nesaf.

Wrth siarad mewn cyfarfod rhithiol oedd wedi ei drefnu gan yr Amgueddfa Wyddoniaeth nos Iau, dywedodd Dr Chris Whitty nad oedd Prydain "allan o'r gwaethaf" eto, ac fe allai niferoedd cleifion Covid-19 mewn ysbytai gyrraedd niferoedd "eithaf brawychus".

Ychwanegodd fod niferoedd y bobl mewn ysbytai oedd yn derbyn triniaeth o achos yr haint yn dyblu bob tair wythnos ar hyn o bryd.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.