Newyddion S4C

Covid hir: Adnabod dros 200 o symptomau

The Guardian 16/07/2021
Ymchwil Covid-19

Mae'r astudiaeth ryngwladol fwyaf erioed o bobl â Covid hir wedi adnabod dros 200 o symptomau i'r cyflwr, gydag ymchwilwyr yn galw am gynllun sgrinio genedlaethol.

Mae'r astudiaeth wedi darganfod bod symptomau Covid hir yn gallu effeithio 10 o organau'r corff, gyda thraean o'r symptomau yn effeithio pobl am o leiaf chwe mis.

Dywed ymchwilwyr y byddai cynllun sgrinio genedlaethol yn galluogi gwell dealltwriaeth o faint o bobl sy'n cael eu heffeithio, a'r math o gymorth sydd eu hangen.

Rhai o'r symptomau mwyaf cyffredin i'r astudiaeth eu hadnabod oedd blinder ac ymennydd niwlog (brain fog), gyda nifer o symptomau eraill hefyd wedi eu cofnodi, meddai The Guardian.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.