'Dwi isho cyntaf eto': Guto Bell yn gobeithio camu nôl i'r llwyfan yn 2026
'Dwi isho cyntaf eto': Guto Bell yn gobeithio camu nôl i'r llwyfan yn 2026
"Pan dwi’n cerddad rownd mae hogiau a genod Dyffryn Nantlle yn deud, Guto Bell ydi hwnna? A dwi fath â, ia!"
Fe aeth fideo o Guto Bell yn feiral ar ôl iddo ddiolch i’w fam am ei helpu i ennill cystadleuaeth lefaru unigol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dywedodd y bachgen wyth oed o Benygroes, Gwynedd nad oedd yn hoff iawn o lefaru ar y pryd, ond ei fod yn gobeithio camu i’r llwyfan eto yn 2026.
"O’n i ddim isho adrodd, o’n i mond isho mynd ar PS – ond nesh i dechrau enjoio’r adrodd ychydig bach," meddai wrth Newyddion S4C.
"Yn yr Eisteddfod ola' o’n i'n mor frustrated, o'n i bach yn traumatised. O’n i fath â, jyst calmio i lawr, jyst calmio i lawr plis Guto.
"Oedd ymennydd fi’n deud: ok, ok, smalio bod 'na neb yna, sbio o flaen fi ar yr awyr a jyst adrodd."
O Fargam i Fôn?
Yn dilyn ei lwyddiant ym Mharc Margam, mae Guto yn edrych ymlaen at gael cystadlu eto.
Mae'n dweud ei fod eisoes yn ymarfer ar gyfer yr eisteddfod gylch, gyda'r gobaith o gyrraedd Eisteddfod yr Urdd ym Môn.
"Dwi'n mynd i canu, dwi'n mynd i adrodd, ac unawd alaw werin am y tro cyntaf," meddai Guto.
"A dwi'n meddwl i neud tri o heina, 'dan ni isho digon o gwaith i dysgu nhw a bod 'dan ni’n neud nhw’n iawn."
Ychwanegodd: "Mae Mam isho fi neud o’n rili rili da i fi gael cyntaf eto!"
Er bod Guto yn mwynhau cystadlu mewn eisteddfodau, mae ganddo ei fryd ar ddod yn actor ar opera sebon.
"Mae Dad a Mam yn deu'tha fi, pan ti’n hogyn mawr dos ar Rownd a Rownd," meddai.
"A dwi fath â, ok, ok, ok, ac dwi rili yn edrych ymlaen am hynna!"
'Perfformio yn magu hyder'
Dywedodd tad Guto, Daniel Bell, 32, ei fod yn "falch iawn" o'i fab.
"Dwi'n meddwl bod o'n mor bwysig bod pobl ifanc yn cael y profiadau gwahanol 'ma mewn bywyd," meddai.
"Roedd Guto yn hogyn bach digon swil, distaw, roedd ei frawd mawr yn siarad drosdo fo lot.
"Ond be' 'dan ni wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf ydi Guto yn magu hyder."
Mae'r gwaith o adeiladu ei hyder yn parhau ar dudalen TikTok, lle mae'r tad a'r mab yn gwneud fideos doniol gyda'i gilydd.
"Mae o mor hyderus o flaen camera, mwy hyderus yn yr ysgol, mwy hyderus efo'i bêl-droed, mwy hyderus o gwmpas teulu, ffrindiau," meddai.
"Felly mae'n braf gweld effaith positif y cyfryngau cymdeithasol yn hytrach na clywed y negyddiaeth o hyd."
Fe aeth ymlaen i ddweud mai'r hyn sy'n bwysig ydi bod Guto yn cael mwynhad o berfformio.
"'Dan ni'n gobeithio y bydd Guto'n gallu cario hyn ymlaen, curo'r Eisteddfod eto neu beidio," meddai.
"Yn sicr mae gynno fo dalent ac mae gynno fo ryw knack o flaen y camerâu, ac mae'n joio ei hun.
"Dyna sy'n bwysig i ni fel rhieni, ydi bod 'na wên ar ei wyneb o a bod o'n joio be' mae'n neud."