Rhybudd cyn mentro i'r môr i ddathlu'r Calan

Nofio gwyllt

Gyda nifer o ddigwyddiadau ar y gweill yng Nghymru, mae'r RNLI yn rhybuddio pobl i fod yn ymwybodol o'r peryglon wrth fentro i'r môr yn rhan o ddathliadau'r Calan.  

Yn ôl yr elusen achub, mae effaith y dŵr oer ac amodau'r tywydd yn medru bod yn beryglus i rai.     

Daw'r rhubudd wedi diflaniad dyn 63 oed - Matthew Upham, a dyn arall ddydd Nadolig yn nhref Budleigh Salterton yn Nyfnaint.  

Diflannodd Mr Upham a'r dyn arall yn ei 40au ar ôl mynd i'r môr er mwyn helpu dynes oedd mewn trafferthion yn y dŵr. 

Dywedodd Gareth Morrison, pennaeth diogelwch dŵr yr RNLI: “Ry'n ni'n gwybod y bydd nifer o bobl yn mentro i'r dŵr dros y Calan neu'n parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau nofio yn y gaeaf. 

“Felly rydym yn annog unrhyw un sy'n mynd i'r dŵr i fod yn ymwybodol o'r peryglon, i wirio amodau'r môr ac i ddeall yr hyn sy'n ymarferol bosibl iddyn nhw ei gyflawni.  

“Gyda thymheredd y môr yn dal i ostwng ac yn cyrraedd y lefel oeraf tua mis Mawrth, dylid ystyried effaith hynny yn ofalus, yn ogystal ag amodau'r tywydd ac unrhyw broblemau iechyd, cyn mentro i'r môr.  

“Os taw dyma eich ymdrech gyntaf, rydym yn eich argymell i siarad â'ch meddyg teulu yn gyntaf, yn enwedig y rhai sydd â phroblemau'r galon neu gyflyrau iechyd eraill,” meddai.

 

 

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.