Edrych yn ôl ar ddydd Iau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Llwyfan yr Eisteddfod

Llif byw yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau.

Crynodeb

  • 16:42

    A dyna ni...

  • 16:42

    Cai Llewelyn Evans yn cipio Medal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol

  • 16:28

    Cwyno am ddiffyg parch “pobol wirion bost” at y rhai sy’n cyfeirio traffig Boduan

  • 15:51

    Pwy sy'n galw?

  • 15:27

    'Angen mwy o fuddsoddiad i newyddiaduraeth Gymraeg'

  • 14:32

    Maes B yn trawsnewid i fod yn theatr am un noson yn unig

  • 13:43

    Ysgol Hafod Lon yn diddanu’r dorf

  • 12:44

    Medal Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn ‘hwb sylweddol’ i werthiant llyfrau

  • 12:23

    Digwyddiad cyntaf 'Camp Cymru' yn yr Eisteddfod

  • 11:31

    Un yn yr ysbyty a thri yn y ddalfa wedi digwyddiad ynghanol Pwllheli

  • 10:00

    Digwyddiad heddlu ym Mhwllheli

  • 09:54

    Croeso i'r ffrwd byw

16:42

A dyna ni...

Diolch yn fawr iawn i chi am ddilyn ein llif byw heddiw.

Cofiwch y byddwn yn dychwelyd â'r llif byw fore Gwener, ar ddiwrnod y Cadeirio!

16:42

Cai Llewelyn Evans yn cipio Medal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol

Cai Llewelyn Evans sydd wedi cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Derbyniodd ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ddydd Iau mewn seremoni arbennig. 

Cyflwynwyd y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. 

Cafodd Cai Llewelyn Evans ei fagu ym mhentref Pontarddulais. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Bryniago, Pontarddulais, Ysgol y Strade, Llanelli, a Phrifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd MA mewn Llenyddiaeth Ôl-fodern Americanaidd, gan ysgrifennu traethawd hir ar ddramâu August Wilson.

Image
Cai

16:28

Cwyno am ddiffyg parch “pobol wirion bost” at y rhai sy’n cyfeirio traffig Boduan

Heddiw fe fu golwg360 yn siarad â Richard Jones, gwirfoddolwr wrth y brif fynedfa, sy’n dweud nad yw pobol yn gwrando a’u bod yn gallu bod yn anghwrtais.

Yn ôl y gwirfoddolwr, sy’n gyn-blismon o’r Wyddgrug, dydy pobol heb fod yn gas efo fo yn bersonol, ond maen nhw wedi bod yn gas efo rhai gwirfoddolwyr eraill.

Dywed mai’r broblem yw nad yw pobol wastad yn gwrando wrth gael cyfarwyddiadau ar sut i gadw’n saff pan fo pobol yn ceisio cerdded a cheir yn ceisio dod i mewn ag allan.

Teimla fod y gwirfoddolwyr yn haeddu mwy o barch gan na fyddai’r Eisteddfod yn bodoli oni bai amdanyn nhw.

Image
Gwirfoddolwr parcio

15:51

Pwy sy'n galw?

15:27

'Angen mwy o fuddsoddiad i newyddiaduraeth Gymraeg'

Mewn sgwrs ym mhabell Prifysgol Caerdydd ar y maes heddiw, mae'r newyddiadurwr Maxine Hughes, sy'n byw ac yn gweithio yn America wedi galw am fwy o fuddsoddiad i newyddiaduraeth Gymraeg.

"Mae 'na botensial i straeon a newyddion Cymraeg gyrraedd gymaint mwy o bobl.

"Wrth i ni drio denu mwy o gynulleidfaoedd, mae'n rhaid i ni fod yn barod i fynd i lygaid y stori, boed yn straeon neu materion lleol neu yn rhai rhyngwladol.

"Yn y byd digidol, mi allwn gyrraedd gymaint mwy o bobl nac yr ydym wedi gallu yn y gorffenol."

Roedd Maxine yn rhan o sgwrs oedd yn cynnwys cyflwynydd Newyddion S4C, Rhodri Llywelyn, y newyddiadurwr Sian Morgan Lloyd o Brifysgol Caerdydd a'r cadeirydd oedd y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Gwenfair Griffiths.

Image
Maxine Eisteddfod

14:32

Maes B yn trawsnewid i fod yn theatr am un noson yn unig

Bydd Maes B yn trawsnewid i fod yn theatr nos Wener, pan y bydd cwmni theatr Frân Wen a'r Eisteddfod Genedlaethol yn llwyfannu sioe newydd.

Mae Popeth ar y Ddaear yn sioe "bryfoclyd ac ysgytwol" wedi ei hysgrifennu gan Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly. 

Mae'r cynhyrchiad yn ffrwyth llafur pedair blynedd o waith, gyda thri cymeriad yn rhan o'r sioe sef Tom, Undeb a Malltwen. 

Bydd y gynulleidfa yn cael eu tywys ar hyd a lled Maes B yn ystod y ddrama, gydag ensemble o dros 100 o bobl ifanc ac artistiaid proffesiynol hefyd yn rhan o'r cynhyrchiad, a cherddoriaeth fyw gan HMS Morris. 

Dywedodd Iwan Fôn, sy'n chwarae cymeriad Tom Lewis yn y sioe: "Ma’ Popeth ar y Ddaear ‘di gael ei seilio yn y dyfodol – ma’r cymeriad hynaf yn dod o 2072 so ma' dipyn yn y dyfodol a ma’n dychmygu be fysa’r byd yn gallu bod os ‘dan ni’n cario mlaen i weithredu fel ydan ni efo hinsawdd a lot o ffactora eraill.

Image
iwan fon

13:43

Ysgol Hafod Lon yn diddanu’r dorf

Criw o ddisgyblion Ysgol Hafod Lon dan arweiniad eu hathro cerdd, Meilyr Wyn sy’n diddanu’r dorf tu allan i babell Undeb Cymru’r Byd prynhawn ‘ma.

Image
Ysgol Hafod Lon Eisteddfod

12:44

Medal Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn ‘hwb sylweddol’ i werthiant llyfrau

Mae Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn ‘hwb sylweddol’ i werthiant llyfrau Cymraeg, yn ôl stondinwyr a llyfrwerthwyr ar y Maes.

Mae nifer fawr o gopiau o’r ddwy gyfrol eisoes wedi eu gwerthu, ac ymysg y cyfrolau mwyaf poblogaidd yn ystod yr wythnos.

Gwynt y Dwyrain gan Alun Ffred yw cyfrol y Daniel Owen, a Hallt gan Meleri Wyn James yw cyfrol y Fedal Ryddiaitg.

Image
Llyfrau

12:23

Digwyddiad cyntaf 'Camp Cymru' yn yr Eisteddfod

Image
Hannah Blythyn, Siân Gwenllian a Betsan Moses

Fe gafodd y 'Camp Cymru' cyntaf  ei agor ar y Maes heddiw.

Mae’n dod ag artistiaid, pobl greadigol ac aelodau o'r gymuned LHDTC+ ynghyd i drafod y celfyddydau cwiar Cymraeg yng Nghymru.

Mae'n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. 

Mae Marc Rees yn artist ac yn un o'r trefnwyr. Dywedodd: "Mae Camp Cymru yn ddiwrnod o ddigwyddiadau a thrafodaethau sy'n rhoi cyfle i ddathlu ond hefyd edrych yn drylwyr ar y dyfodol, a chael eich cyffroi ganddo.

"Mae'r Eisteddfod wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd, a dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n newid. Rydym yn croesawu newid. Rydym yn croesawu pobl LGBTQ+ a'u gwaith.

"Mae taith Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop yn hynod uchelgeisiol. Mae'n daith y gallwn ni ei gwneud gyda'n gilydd, ac mae'n wych bod yr Eisteddfod yn ein cefnogi."

Roedd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, yr Aelod Arweiniol Dynodedig o Blaid Cymru, Siân Gwenllian AS, a Prif Weithredwr yr Eisteddfod Betsan Moses yn bresennol yn y lansiad.

12:15

Angen i'r Orsedd addasu 'gan bwyll bach' medd yr Archdderwydd nesaf

Image
Mererid Hopwood

Mae angen i'r Orsedd addasu "gan bwyll bach" medd yr Archdderwydd nesaf, Mererid Hopwood.

Bydd yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd yn gorffen yn ei rôl ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

"Y cwbl allai ddweud yw y byddai yn gwneud fy ngorau glas i wasanaethu’r orsedd a’r Eisteddfod a Chymru hefyd," meddai Mererid Hopwood.

Darllenwch y sgwrs gyfan fan hyn.

12:06

Wynebau a lleisiau cyfarwydd yn diddanu

Image
John ac Alun

Y ddeuawd canu gwlad poblogaidd, ac arwyr lleol, John ac Alun yn diddanu Eisteddfodwyr ar stondin Undeb Amaethwyr Cymru.

11:55

Sut mae'r tywydd ar y Maes?

Ychydig yn gymylog ond cynnes yw hi ar y Maes ar hyn o bryd.

11:43

Un o artistiaid yr Eisteddfod yn anfodlon teithio i Iran wedi rhaglen ddogfen

Mae'r artist Parisa Fouladi wedi dweud nad yw'n teimlo'n ddiogel i ddychwelyd i Iran ar ôl siarad am orthrwm awdurdodau'r wlad ar raglen ddogfen Y Byd ar Bedwar ar S4C.

Roedd Parisa'n siarad gyda chriw o newyddiadurwyr ifanc Llais y Maes yn ystod yr Eisteddfod ym Moduan.

11:31

Un yn yr ysbyty a thri yn y ddalfa wedi digwyddiad ynghanol Pwllheli

Mae un person wedi ei gludo i’r ysbyty a thri yn y ddalfa mewn cysylltiad â digwyddiad ger adeilad y Ganolfan Waith ym Mhwllheli. 

Roedd presenoldeb sylweddol gan swyddogion yr heddlu i'w weld ar Ffordd Caerdydd Isaf yn y dref ddydd Iau. 

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad brynhawn dydd Iau ei fod yn “ddigwyddiad domestig”.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Gallaf gadarnhau ar hyn o bryd bod un person wedi'i gludo i'r ysbyty, a bod tri o bobl yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

“Hoffwn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth neu sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â ni ar-lein neu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod A126779.”

11:18

Wynebau cyfarwydd yn troedio'r Maes

Does dim dal pwy welwch chi'n cerdded y Maes mewn Eisteddfod. Dyma ddau o enwogion Cymru'n cynnal sgwrs a chyfweliad ym Moduan ddydd Iau - y darlledwr Gerallt Pennant a'r eicon Maggi Noggi.

Image
Maggi_Noggi

11:01

Gig y Pafiliwn yn gyfle i ddathlu Hip-Hop Cymraeg

Mae'r paratoadau ar gyfer Gig y Pafiliwn nos Iau wedi cael eu cynnal yn ystod y bore - gydag un o'r artistiaid, Aneirin Karadog, yn hapus gyda'r prawf sain.

10:44

Gwarchod enwau lleoedd yn bwnc trafod ar y Maes

Mae cryn drafod wedi bod dros y misoedd diwethaf am y pwysigrwydd o warchod enwau lleoedd i'r dyfodol.

A dyma union bwnc trafod panel ar stondin Cyngor Gwynedd ar y maes fore dydd Iau, sydd yn cynnwys y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles.

10:33

O ben draw'r byd i Foduan

Mae pobl wedi teithio o bell ag agos i Foduan ar gyfer yr Eisteddfod yr wythnos hon.

Un sydd wedi teithio'n bellach na'r mwyafrif o Eisteddfodwyr yw Jean, sydd yn 92 oed, o Albuquerque yn New Mexico.

Eleri Sion fu'n clywed ei hanes:

10:00

Digwyddiad heddlu ym Mhwllheli

Mae presenoldeb sylweddol gan swyddogion yr heddlu i'w weld ar Ffordd Caerdydd Isaf ym Mhwllheli fore dydd Iau. 

Y gred yw bod yr Ambiwlans Awyr wedi cael ei alw hefyd ac mae sawl ambiwlans wedi eu gweld yn teithio i gyfeiriad y digwyddiad.

Mae rhagor o fanylion fan hyn.

09:54

Croeso i'r ffrwd byw

Image
Medal Eisteddfod

Mae'n addo bod yn ddiwrnod prysur arall ar faes yr Eisteddfod ddydd Iau.

Y prif seremoni heddiw yw'r Fedal Ddrama ar fydd ar lwyfan y Pafiliwn Mawr am 16.30.

Bydd Gig y Pafiliwn hefyd heno am 20.00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.