Mererid Hopwood yn 'nerfus ond yn edrych ymlaen' i fod yn Archdderwydd
Mererid Hopwood yn 'nerfus ond yn edrych ymlaen' i fod yn Archdderwydd
Mae Mererid Hopwood yn “nerfus ond yn edrych ymlaen” at ddechrau ei swydd newydd fel Archdderwydd Gorsedd Cymru.
Mererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, wedi iddi ei hennill yn Eisteddfod Sir Ddinbych yn 2001.
Mae hi hefyd wedi ennill y Goron a'r Fedal Ryddiaith.
Fe wnaeth enw Mererid Hopwood gael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Orsedd ar gyfer swydd swydd yr Archdderwydd o 2024 i 2027 ddydd Iau.
Wrth ymateb, dywedodd Mererid Hopwood ei bod yn "ddipyn o fraint a dwi’n ymwybodol o hynny – mae hi hefyd yn gyfrifoldeb a dwi’n sylweddoli hynny hefyd".
"Y cwbl allai ddweud yw y byddai yn gwneud fy ngorau glas i wasanaethu’r orsedd a’r Eisteddfod a Chymru hefyd," meddai.
Fe wnaeth hefyd gydnabod bod angen addasu traddodiadau'r Orsedd ond sicrhau nad yw'r gwerthoedd crai yn cael eu colli.
"Yn sicr, mae yna heriau o flaen unrhyw draddodiad sydd eisiau byw a mae phobl yn meddwl mai rhywbeth i’w gadw," meddai.
"Na – rhywbeth i’w anadlu, i ddatblygu yw traddodiad sydd yn fyw.
"Y’n ni moyn i hi fod yna yn addasu, ond heb golli’r hyn sydd yn greiddiol iddi felly mi fyddai gobeithio yn dilyn esiampl Myrddin ap Dafydd a’r rhai sydd wedi mynd o fy mlaen i, i barchu’r hyn sydd yna a gweld os oes isio newid rhywbeth, gwneud hynny gan bwyll bach."
'Agos at galonnau'
Ychwanegodd bod yr Orsedd yn parhau yn berthnasol i'r Eisteddfod ac i Gymru yn yr oes sydd ohoni.
"Mae’n rhyfedd, ma’ rhywun yn synhwyro pan y’ch chi yn seremoni’r Orsedd, pa mor od o berthnasol yw hi rywsut oherwydd y’n ni gyd dwi’n meddwl yn gwerthfarwogi ei hynodrwydd hi ac eto yn closio ati," meddai.
"Ie yn fan hyn yn rhywle fel Llŷn ac Eifionydd lle mae’r Gymraeg yn fyw ond hefyd yn Aberdâr lle mae llai o’r iaith Gymraeg, cawsom ni groeso rhyfeddol yn ystod seremoni’r cyhoeddi, pobl mas ar y stryd yn curo dwylo ac yn amlwg wrth eu bodd.
"Fydde rywun yn synnu dwi’n meddwl pa mor berthnasol, pa mor agos yw’r Orsedd at galonnau pobl Cymru ymhob cwr o’r wlad."
Bydd yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd yn gorffen yn ei rôl ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.