Cyhoeddi enw 19eg Bardd Plant Cymru
Cyhoeddi enw 19eg Bardd Plant Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enw 19eg Bardd Plant Cymru.
Fe gyhoeddwyd ddydd Mercher fod Siôn Tomos Owen wedi dechrau yn y rôl yn swyddogol ddechrau Medi.
Mae Siôn yn awdur, bardd, artist a chyflwynydd dwyieithog sy'n wreiddiol o Dreorci yn Rhondda Fawr, ac mae'n gweithio fel artist llawrydd creadigol yn darlunio, paentio murluniau a chynnal gweithdai creadigol.
Roedd yn un o gyflwynwr cyfresi Cynefin a Pobol y Rhondda ar S4C, yn ogystal roedd hefyd yn gyfrannwr comedi i raglenni Y Tŷ Rygbi, Jonathan ac Academi Gomedi.
Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd (gan gyhoeddiadau Barddas) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, a’i gyhoeddiad diweddaraf yw nofel i blant o’r enw Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen.
Mae wedi ‘sgwennu a darlunio nifer o lyfrau i blant a dysgwyr Cymraeg, ac mae ei farddoniaeth a’i straeon ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail iaith.
Mewn ymateb i'w benodiad, dywedodd Siôn: "Fel Bardd Plant Cymru dwi am fagu’r creadigrwydd sydd ym mhob plentyn i greu, creu cerddi, straeon neu ddarluniadau, y doniol a’r dwys, ac i ddefnyddio’r rhain i feithrin y diddordeb mewn darllen wnaeth gydio ynof fi pan roedden i’r un oedran.”