Cau ffordd yr A470 am gyfnod wedi i lori fynd yn sownd o dan bont
Roedd ffordd yr A470 ar gau ym Mhowys am gyfnod ddydd Mercher wedi i lori fynd yn sownd o dan bont rheilffordd.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i Bontdolgoch, ger Caersws am 08.10, yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad ar y ffordd.
Roedd lori wedi taro pont rheilffordd, ac wedi mynd yn sownd rhwng y ddwy wal.
Roedd y ffordd ar gau am gyfnod yn ystod ymdrechion i dynnu'r lori allan o dan y bont.
Mewn datganiad brynhawn dydd Mercher, dywedodd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru:
“Mynychodd peirianwyr Network Rail y safle ger Caersws i asesu’r difrod a gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol.
"Mae lein y Cambrian bellach wedi ailagor yn dilyn y digwyddiad.
“Efallai y bydd rhywfaint o darfu yn parhau wrth i wasanaethau rheilffordd ailddechrau, ac rydym yn cynghori cwsmeriaid i wirio cyn iddynt deithio."