Darganfod gweddillion dyn oedd ar goll ers 2019 ger cronfa ddŵr
Llun: Eirian Evans
Mae gweddillion corff dyn oedd ar goll ers 2019 wedi eu darganfod ger cronfa ddŵr.
Ar 29 Awst roedd Heddlu De Cymru wedi derbyn adroddiadau bod gweddillion dynol wedi eu gweld mewn ardal anghysbell ger Cronfa Ddŵr Llyn Onn ym Mannau Brycheiniog.
Mae'r llu wedi cadarnhau mai gweddillion Jordan Moray, oedd wedi bod ar goll ers Gorffennaf 2019, oedd wedi eu darganfod.
Cafodd ei weld ddiwethaf ger ei gartref yng Nghwmbach, Aberdâr.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.
Mae teulu Mr Moray hefyd wedi cael gwybod am y datblygiad, ac wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn.