Cyhuddo dyn o chwilio am aur ger Dolgellau

Aur Cymru

Mae dyn 68 oed o Sir Rydychen wedi ei gyhuddo o chwilio’n anghyfreithlon am aur yn Eryri.

Yn Llys Ynadon Caernarfon, cafodd Brian Wright, o Henley-on-Thames, ei gyhuddo o gloddio neu gael gwared ar "unrhyw bridd, tyweirch, llwydni dail, mwsogl, mawn, graean, slag, tywod neu fwynau o unrhyw fath, yn neu ar diroedd yr awdurdod coedwigaeth priodol, sef Cyfoeth Naturiol Cymru”.

Honnir i’r drosedd ddigwydd ym mis Hydref y llynedd yn Afon Wen, ger Dolgellau. 

Ddeufis yn ddiweddarach, honnir iddo darfu ar bysgod oedd yn silio yn fwriadol o dan Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw.

Clywodd ynadon ei fod wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn.

Dywedodd Dafydd Roberts ar ran yr erluyniad fod offer chwilio am aur wedi'i weld yn yr afon. Roedd yr achos yn ymwneud â “materion cymharol gymhleth”.

Ni ymddangosodd Wright yn bersonol ac fe blediodd ei gyfreithiwr Chris Dawson yn ddieuog ar ei ran, yn y llys. 

Gohiriwyd yr achos i fynd o flaen barnwr rhanbarth.

Mae aur Cymru yn cael ei ystyried yn werthfawr iawn ac wedi'i wisgo gan genedlaethau o’r teulu brenhinol.

Ymhlith aelodau'r Teulu Brenhinol sydd â modrwyau priodas aur Cymru mae'r Brenin Siarl III a’r Frenhines Camilla, Catherine, Tywysoges Cymru, a Meghan, Duges Sussex.

Llun: Aur Cymru/Tavex Bullion

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.