S4C: 'Pwyslais ar ddyfodol digidol' wrth gyhoeddi strategaeth newydd
S4C: 'Pwyslais ar ddyfodol digidol' wrth gyhoeddi strategaeth newydd
Mae S4C yn dweud fod yna 'bwyslais ar ddyfodol digidol' wrth i'r sianel lansio ei strategaeth newydd am y bum mlynedd nesaf.
Dywedodd y prif weithredwr Geraint Evans y bydd y strategaeth newydd yn "sicrhau bod S4C ar flaen y gad mewn cyfnod o newid ar draws y diwydiant."
Daw hyn yr un pryd â darllediad Yr Alwad – y ddrama fertigol gyntaf i S4C ei chomisiynu yn benodol ar gyfer llwyfan TikTok.
Yn ei strategaeth, mae S4C yn pwysleisio ei phrif bwrpas o "ddangos ein byd drwy’r Gymraeg" gan addo "ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyda chynnwys gwych i bawb”.
Mae’n amlinellu’r camau pellach bydd yn cymryd dros y pum mlynedd er mwyn;
- Ehangu gwylio gyda’n cynnwys
- Trawsnewid yn ddigidol-yn-gyntaf
- Cydweithio er mwyn gweld Cymru’n ffynnu
Dros y cyfnod nesaf bydd S4C yn ail-ddiffinio’i modd o gomisiynu a dosbarthu cynnwys er mwyn “sefyll allan mewn marchnad gystadleuol – gan fanteisio ar ei darpariaeth unigryw Gymraeg a Chymreig”.
Fel cam cyntaf mae S4C yn galw am geisiadau comisiwn cynnwys newydd YouTube ar gyfer cynulleidfaoedd 25-44 oed gyda buddsoddiad o bron i £1m.
Mae hefyd yn addo cydweithio â’r sector cynhyrchu ac eraill i ehangu ei heffaith y tu hwnt i’r sgrîn – gan ddwysáu ei chyfraniad at dwf yr iaith, diwylliant a’r economi greadigol ledled Cymru.
Fel rhan o’r newid ehangach mewn arferion gwylio, daw 14% o holl oriau gwylio S4C drwy BBC iPlayer, S4C Clic ac YouTube, ac mae’r gyfran honno’n cynyddu’n flynyddol yn ôl S4C.
Mae traean o’r gwylio gan bobl rhwng 16-44 oed eisoes yn cael ei wneud drwy blatfformau digidol.
'Cyfle i arloesi'
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae darlledwyr cyhoeddus ar draws y byd yn wynebu heriau digynsail wrth i arferion gwylio newid.
“Ond gyda phob her, daw cyfle i arloesi, a thrwy gydweithio â’n partneriaid yn y sector cynhyrchu, bydd ein strategaeth newydd yn sicrhau bod S4C ar flaen y gad mewn cyfnod o newid ar draws y diwydiant.
“Dwi’n falch o allu rhannu’r strategaeth hon, sy’n amlinellu ein hymrwymiad i wasanaethu ein cynulleidfaoedd amrywiol, i fod yn gatalydd i ffyniant economaidd ac i chwarae rôl flaenllaw yn nyfodol y Gymraeg fel iaith fyw.”
Ychwanegodd Delyth Evans, Cadeirydd Bwrdd S4C: “Pan gafodd S4C ei sefydlu, ei bwriad oedd rhoi llwyfan i’r Gymraeg yn y cyfryngau cyfoes gan ddiogelu’r iaith at y dyfodol.
“Mae hynny’r un mor wir heddiw, ond mae’r cyfryngau cyfoes yn wahanol iawn yn 2025 o’u cymharu â 1982, gyda llai yn gwylio cynnwys ar deledu llinol a mwy yn gwneud defnydd o gyfryngau digidol.
“Un o’m mlaenoriaethau i yw sicrhau bod S4C yn cynnal ac ehangu’i chynulleidfaoedd, drwy dyfu amlygrwydd y sianel ar draws ystod eang o blatfformau.
“Dwi’n ffyddiog, gyda thîm arloesol o bobl yn gweithio i S4C, ac o fewn y sector darlledu ehangach, mai dyma ddechrau ar bennod newydd, gyffrous yn hanes S4C.”
Dywedodd Llyr Morus, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru: “Mae TAC yn croesawu bod S4C yn gosod strategaeth a chyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Mae tirwedd y cyfryngau yn newid ac mae'r diwydiant ehangach, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu, hefyd yn edrych i addasu.
"Er mwyn cyflawni’r strategaeth yn llwyddiannus a sicrhau bod y cynnwys ar gael ar draws y gwahanol lwyfannau i wylwyr S4C, bydd yn bwysig wrth gwrs i S4C gydweithio’n agos gyda TAC a’r sector.
"Rydym yn edrych ymlaen at ddeialog barhaus ac agored gyda S4C, gan gynnwys ar ei chynllun ar gyfer ffordd newydd o gomisiynu. Bydd ymgynghori â’r sector yn bwysig er mwyn sicrhau bod cwmnïau ar draws Cymru gyfan yn gallu darparu cynnwys o safon uchel i wylwyr S4C sy’n adlewyrchu cymunedau ledled y wlad a thu hwnt.”