‘Ry’n ni mewn lle anodd’: Y camau nesaf i rygbi menywod Cymru

Sean Lynn

Mae prif hyfforddwr rygbi menywod Cymru, Sean Lynn wedi cydnabod bod y gamp “mewn lle anodd ar hyn o bryd”.

Yn dilyn colli eu tair gêm yng Ngrŵp B yng Nghwpan y Byd yn ddiweddar, a methu symud ymlaen, mae Lynn wedi amlinellu ei gynlluniau i wella'r garfan genedlaethol.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod Lynn, sydd wedi bod wrth y llyw ers chwe mis, eisoes “yn cynllunio adolygiad manwl o berfformiadau’r tîm yn y gystadleuaeth gyda’r chwaraewyr a’r staff”. 

Mae Lynn yn nodi’r Her Geltaidd fel cam allweddol i ddatblygiad rygbi menywod yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban. 

Bydd chwaraewyr sydd wedi eu cytundebu gan Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi eu cofrestru gyda chlybiau yn Lloegr – ond sydd ddim yn chwarae i’w  clybiau’n cael y cyfle i chwarae rygbi cyson yng Nghymru. 

Dywedodd Sean Lynn: “Ry’n ni mewn lle anodd ar hyn o bryd. 

“Mae pob aelod o’r garfan a’r staff yn hynod falch o’n Cymreictod. 

“Byddwn yn cynnal arolwg arbennig o fanwl o Gwpan y Byd a’r daith haf i Awstralia er mwyn gwella’r union fanylion sydd angen i ni eu gwella wrth edrych ymlaen at Bencampwriaeth Chwe Gwlad 2026. 

“Fe brofon ni dros yr haf ein bod yn gallu ennill ar dir Awstralia am y tro cyntaf ac hefyd bod gennym y doniau a’r gallu i ennill gemau prawf mawr. 

“Mae nifer yn dweud mai ein gêm ni yn erbyn Fiji oedd gornest fwyaf cyffrous Cwpan y Byd hyd yn hyn. Fe sgorion ni bum cais, fe benderfynwyd nad oedd cais arall yn ddilys ac fe grëon ni hen ddigon o gyfleoedd i ennill y gêm. Does dim amheuaeth ein bod wedi datblygu fel tîm ers Chwe Gwlad y llynedd.” 

Awch

Mae nifer o chwaraewyr yng ngharfan Cymru wedi cynrychioli naill ai Brython Thunder neu Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd ac mae Lynn yn credu bob y gystadleuaeth honno’n allweddol i ddatblygu cryfder yn ei garfan:

Ychwanegodd: "Mae angen iddyn nhw fod yn chwarae’n gyson ac felly mae hynny'n golygu os nad ydyn nhw'n chwarae dros glwb o Loegr, ry’n ni eisiau iddyn nhw chwarae yn yr Her Geltaidd.

"Er mor bwysig yw ymarfer yn dda – does dim byd gwell na chwarae mewn gemau cystadleuol ar y lefel uchaf. Ry’n ni angen i’n merched gael yr awch hwnnw yn eu chwarae fel ein bod yn barod ar gyfer y Chwe Gwlad.

"Byddwn yn cynnal sesiynau ymarfer ac adolygu ffitrwydd rheolaidd fel y gallwn fonitro pa gefnogaeth benodol sydd angen ar bob chwaraewr.

"Byddwn yn bendant yn cynyddu’r gofynion ymarfer ar gyfer y chwaraewyr sydd o dan gytundeb - er mwyn adlewyrchu’r hyn y mae clybiau’r Uwch Gynghrair yn Lloegr yn eu gwneud."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.