Dronau o Rwsia wedi hedfan dros diriogaeth NATO am y tro cyntaf

Gwlad Pwyl - Dronau Rwsia (Reuters)

Fe wnaeth 19 o ddronau Rwsia hedfan i mewn i awyr ofod Gwlad Pwyl  dros nos meddai prif weinidog y wlad, Donald Tusk.

Cafodd hyd at bedwar o'r dronau eu saethu i lawr gan awyrennau NATO a Gwlad Pwyl, meddai. 

Dyma'r tro cyntaf i un o wledydd sydd yn aelod o NATO orfod ymyrryd gyda dronau Rwsia ers i'r rhyfel yn Wcráin gychwyn yn 2022.

Cafodd pedwar o feysydd awyr Gwlad Pwyl eu cau gan gynnwys maes awyr y brifddinas, Warsaw.

Roedd yna rybudd hefyd i'r cyhoedd i aros adref mewn ardaloedd ger y ffin gyda Wcráin.

Mae NATO (North Atlantic Treaty Organization) yn gynghrair wleidyddol a milwrol, sy'n cynnwys gwledydd o Ogledd America ac Ewrop, a ffurfiwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd i warantu rhyddid a diogelwch ei aelodau trwy amddiffyn ar y cyd, lle mae ymosodiad ar un wladwriaeth sy'n aelod o'r gynghrair, yn ymosodiad ar bawb.

Mewn neges ar y cyfrwng cymdeithasol X dywedodd Rheolwr Gweithredol lluoedd arfog gwlad Pwyl bod hyn wedi bod yn "weithred o drais oedd yn fygythiad go iawn i ddiogelwch ein dinasyddion".

Bydd y Prif Weinidog, Donald Tusk yn cynnal cyfarfod brys gydag aelodau o'i gabinet yn ddiweddarach.

Roedd yna ymosodiadau dronau dros nos gan Rwsia yn Wcráin hefyd.

'Sefyll yn gadarn gyda Gwlad Pwyl'

Wrth ymateb i'r digwyddiadau ddydd Mercher, dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer bod gweithredoedd Rwsia yn "peri pryder".

"Mae ymosodiad barbaraidd y bore yma ar Wcráin a'r weithred o dorri gofod awyr Gwlad Pwyl a NATO gan ddronau Rwsiaidd, yn ddifrifol, yn ddigynsail, ac yn peri pryder mawr.

"Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Phrif Weinidog Gwlad Pwyl y bore yma i egluro ein cefnogaeth i Wlad Pwyl, ac y byddwn yn sefyll yn gadarn yn ein cefnogaeth i Wcráin.

"Mae fy niolch diffuant yn mynd i luoedd NATO a Gwlad Pwyl a ymatebodd yn gyflym i amddiffyn y Gynghrair.

"Gyda'n partneriaid, byddwn yn parhau i gynyddu'r pwysau ar Putin nes bod heddwch cyfiawn a pharhaol."

Llun: Milwyr yn sefyll y tu allan i adeilad  yn rhanbarth Wyryki a gafodd ei ddifrodi mewn ymosodiad dronau (Reuters)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.