Lansio ymchwiliad annibynnol newydd i ddiflaniad myfyrwraig o Fôn
Mae ymchwiliad annibynnol newydd wedi’i lansio i ddiflaniad myfyrwraig o Fôn sydd wedi bod ar goll ers pedair mlynedd.
Y tro diwethaf i Catrin Maguire gael ei gweld oedd yn ei thref enedigol, Caergybi, a hynny ym mis Tachwedd 2021.
Mae ymchwiliad yr heddlu i’w diflaniad yn parhau i fod yn agored, ond mae elusen ‘Locate International’ bellach yn cynnal eu hymchwiliad annibynnol eu hunain ar gais teulu Catrin.
Roedd Catrin yn fyfyrwraig iechyd a gofal cymdeithasol yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, wedi prynu tocyn trên o Fangor i Gaergybi ar 15 Tachwedd, 2021.
Fe gwelwyd hi ar luniau teledu cylch cyfyng yn cerdded ger cartref y teulu yng Nghaergybi, ac fe welodd llygad-dyst hi ym maes parcio gwarchodfa'r RSPB yn Ynys Lawd, ychydig filltiroedd o ganol y dref, yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
O fewn awr iddi gael ei gweld ger Ynys Lawd, diffoddodd Catrin ei ffôn symudol, ac ni welwyd hi eto. Ers hynny, mae tystion wedi dod ymlaen i adrodd achlysuron posib o’i gweld hi yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw.
Dywedodd Locate International, “Bydd hwn yn ymchwiliad annibynnol i'r ffeithiau ynghylch diflaniad Catrin, ac nid yw'n disodli ymchwiliad yr heddlu sy'n parhau, ond mae'n ei ategu.”
'Eisiau atebion'
Ar adeg ei diflaniad, roedd Catrin yn gwisgo cot dywyll ac yn cario bag lliw golau. Fe gafodd ei disgrifio fel menyw denau, tua 5'5" (165cm) o daldra a gwallt syth, tywyll.
Dywedodd Gerry Maguire, tad Catrin: “Ers i Catrin fynd ar goll, mae wedi dod yn amlwg i ni mai dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei wneud fel teulu. Nid oes gennym ni’r amser na’r sgiliau i wneud y cysylltiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol, pan mai’r cyfan rydyn ni eisiau yw atebion.
“Rydym yn ddiolchgar iawn bod Locate International yn gallu helpu i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn a chymryd rhywfaint o’r baich oddi wrthym. Mae wedi bod, ac yn parhau i fod, yn llethol ac yn flinedig.
“Unwaith eto, hoffem ddiolch i’r holl bobl hynny sydd wedi ein cefnogi ac sy’n parhau i’n cefnogi.”
Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Locate International, Mark Greenhalgh: “Rydym yma i wrando. Gallwch rannu gwybodaeth gyda ni yn gyfrinachol, a gallwch aros yn ddienw os dymunwch. Mae pob cyflwyniad yn cael ei adolygu’n ofalus gan ein tîm.
“Rydym hefyd yn croesawu cyswllt gan unrhyw un a allai fod wedi ceisio rhannu gwybodaeth yn flaenorol ac a deimlai nad oedd wedi’i hystyried yn llawn. Ein hymrwymiad yw darparu lle diogel a chyfrinachol lle mae pob llais yn cael ei glywed.”
Mae unrhyw un sy'n teimlo fod ganddynt hwy unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i'r ymchwiliad yn cael eu hannog i gysylltu â Locate International drwy e-bostio appeals@locate.international, drwy ffonio 0300 102 1011 neu drwy ymweld â https://locate.international/missing-people/catrin-maguire