Dyn o Gymru wedi marw ar ôl disgyn o falconi yng Ngwlad Thai
Mae dyn 75 oed o Gymru wedi marw ar ôl disgyn o falconi yng Ngwlad Thai.
Bu farw Keith Jones, o Brestatyn yn Sir Ddinbych ar ôl iddo ddisgyn o'r balconi mewn gwesty yn Pattaya, yn nwyrain y wlad.
Yn ôl cyfryngau lleol, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i westy yn ardal Nong Prue, Bang Lamung, ddydd Sadwrn 6 Medi am 17:30 amser lleol.
Dywedodd yr heddlu yn y wlad fod Mr Jones wedi marw yn y fan a’r lle.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gwlad Thai bod Mr Jones yn aros ar ddegfed llawr y gwesty yn Pattaya.
“Nid ydym yn gwybod o hyd ai damwain neu ddim oedd achos y farwolaeth," meddai'r heddlu.
Dywedodd y Lieutenant Manasak Phonlayiam o Heddlu Gwlad Thai fod y Llysgenhadaeth Brydeinig wedi cael gwybod am y digwyddiad.