Caernarfon: Dyn gafodd ei ddarganfod yn y Fenai wedi marw 'o achosion annaturiol'

Corff Caernarfon

Roedd dyn 55 oed a gafodd ei ddarganfod yn farw yn y Fenai yng Nghaernarfon ar ddechrau'r mis wedi marw o achosion annaturiol.

Mewn cwest yn y dref fore Mercher, dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, fod Paul Andrew Williams, wedi ei ddarganfod yn y dŵr gan aelod o'r cyhoedd ar 2 Medi.

Roedd Mr Williams, o Stryd y Plas, Caernarfon, yn Uwch Swyddog Sicrwydd Ansawdd wrth ei waith.

Cafodd ei farwolaeth ei chadarnhau gan barafeddyg am 08:20 ar fore'r digwyddiad.

"Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru mewn gwybodaeth sydd wedi ei ddarparu bod corff wedi ei weld yn y dŵr ger llwybr troed Porth yr Aur. Fe wnaeth aelod o'r cyhoedd adael i'r heddlu wybod ac fe gafodd y corff ei ddiogelu", meddai'r Crwner.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal.

"Tra bod aros am union achos y farwolaeth, mae'n deg amau bod y farwolaeth yn un annaturiol", ychwanegodd y Crwner.

Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau orffen eu gwaith ymchwil i'r digwyddiad.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.