Maes B yn trawsnewid i fod yn theatr am un noson yn unig

IWAN FON.png

Bydd Maes B yn trawsnewid i fod yn theatr nos Wener, pan y bydd cwmni theatr Frân Wen a'r Eisteddfod Genedlaethol yn llwyfannu sioe newydd.

Mae Popeth ar y Ddaear yn sioe "bryfoclyd ac ysgytwol" wedi ei hysgrifennu gan Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly. 

Mae'r cynhyrchiad yn ffrwyth llafur pedair blynedd o waith, gyda thri cymeriad yn rhan o'r sioe sef Tom, Undeb a Malltwen. 

Bydd y gynulleidfa yn cael eu tywys ar hyd a lled Maes B yn ystod y ddrama, gydag ensemble o dros 100 o bobl ifanc ac artistiaid proffesiynol hefyd yn rhan o'r cynhyrchiad, a cherddoriaeth fyw gan HMS Morris. 

Dywedodd Iwan Fôn, sy'n chwarae cymeriad Tom Lewis yn y sioe: "Ma’ Popeth ar y Ddaear ‘di gael ei seilio yn y dyfodol – ma’r cymeriad hynaf yn dod o 2072 so ma' dipyn yn y dyfodol a ma’n dychmygu be fysa’r byd yn gallu bod os ‘dan ni’n cario mlaen i weithredu fel ydan ni efo hinsawdd a lot o ffactora eraill.

"Mae o’n gynhyrchiad lle ma genna ni dri llwyfan sydd yn perthyn i dri cymeriad gwahanol sef Malltwen, Nona a fy nghymeriad i, Tom."

Yn ôl Iwan, mae'r sioe yn gyfle i fyfyrio am y byd a'r dyfodol.

"Be' ydi hwn ydi sioe i bobl ifanc am ddyfodol pobl ifanc ‘ma sy’n mynd i Maes B felly ma’n berthnasol iawn iddyn nhw a gobeithio neith o neud iddyn nhw feddwl a neith o gynnau rwbath yn eu dychymyg nhw gobeithio," meddai.

Ni fydd yna bentref drama yn yr Eisteddfod eleni, ac er fod Iwan yn teimlo fod hyn yn siomedig, mae'n croesawu cyfleoedd newydd i lwyfannu sioeau Cymreig. 

"Ma’n siom bod 'na ddim pentref drama ond ma' rhaid symud ymlaen a trio petha newydd a mae o jyst yn amazing bod ni’n gallu mynd â darn o theatr i fewn i Maes B achos 'dan ni isio cael mwy o bobl ifanc i gymryd diddordeb mewn theatr," meddai.

"Ma' hwn y math o theatr sydd yn mynd i fod o fwy o ddiddordeb i bobl ifanc, mae o bach fel gig hefyd so ti’n croesi’r ffin na rhwng theatr a gig a ma’n gret jyst cal y gynulleidfa ifanc na yn Maes B a gobeithio fydd o’n cal parhau efo rwbath fel hyn a fyddan ni’n cal gwneud rwbath fel hyn bob blwyddyn."

Ychwanegodd ei bod yn deimlad arbennig i gaael y cyfle i arddangos y talent sydd yna yng Nghymru. 

"Dathliad o’r talent sydd genna ni yng Nghymru a dwi’n meddwl ddylsa bo' hwnna yn mynd tu hwnt i gerddoriaeth – ma’n grêt bod ni’n gallu dangos yr actio a dawnsio, jyst bach fwy o amrywiaeth a ma’n neis cael mynd yna am beint bach ond cael peint bach a mwynhau bach o theatr gobeithio ddydd Gwener."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.