Un yn yr ysbyty a thri yn y ddalfa wedi 'trywanu' ynghanol Pwllheli
Un yn yr ysbyty a thri yn y ddalfa wedi 'trywanu' ynghanol Pwllheli
Mae un person wedi ei gludo i’r ysbyty a thri yn y ddalfa wedi digwyddiad ym Mhwllheli.
Yn ôl yr Aelod Seneddol lleol, mae un dyn wedi ei drywanu.
"Mae'n drist iawn i glywed newyddion o ryw ddigwyddiad treisgar fel hyn,"meddai Liz Saville Roberts.
"Dydyn ni ddim yn gwybod cyflwr eto y dyn gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans"
Dywedodd ei bod hi wedi siarad a'r heddlu "a bod yna ddyn wedi ei drywanu, a bod yna bobl leol ymhlith y rhai sydd wedi cael eu brifo."
Dywedodd Ms Saville-Roberts ei bod hi wedi cael sicrwydd gan yr heddlu nad oedd yna bellach unrhyw berygl i'r cyhoedd
Ychwanegodd ei bod hi'n falch o weld bod heddlu arfog wedi llwyddo i gyrraedd Pwllheli o Lanelwy er gwaetha traffig yr Eisteddfod, a bod hynny'n profi fod y trefniadau argyfwng wedi gweithio.
Roedd nifer helaeth o swyddogion yr heddlu i'w gweld ar Ffordd Caerdydd Isaf yn y dref ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu mewn datganiad ei fod yn “ddigwyddiad mewn eiddo domestig”.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “Gallaf gadarnhau ar hyn o bryd bod un person wedi'i gludo i'r ysbyty, a bod tri o bobl yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
“Hoffwn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth neu sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â ni ar-lein neu ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod A126779.”
Cafodd sawl ambiwlans eu galw i'r digwyddiad.
Cyhoeddodd y Ganolfan Waith, sydd ar yr un stryd, y byddai'r swyddfa ym Mhwllheli ynghau drwy'r dydd.
Mewn datganiad fore dydd Iau, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae swyddogion ar hyn o bryd yn bresennol mewn digwyddiad parhaus ar Ffordd Caerdydd Isaf.
"Er nad oes unrhyw bryderon i'r gymuned ehangach, gofynnir i aelodau'r cyhoedd osgoi'r ardal hyd nes y clywir yn wahanol."