Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o'r prif straeon ar ein hafan ar ddydd Mawrth, 25 Mai, o Gymru a thu hwnt.
Llywodraeth y DU: Teithio angenrheidiol yn unig i rannau o Loegr - The Independent
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid eu cyngor ar deithio er mwyn annog pobl i beidio â theithio i rannau o ogledd Lloegr heb reswm hanfodol. Daw hyn wedi i Bedford, Blackburn a Darwen, Bolton, Burnley, Kirklees, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside brofi cynnydd yn y nifer o achosion o'r amrywiolyn newydd o Covid-19 a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India.
Marwolaeth George Floyd: 'Hiliaeth systemig dal yn bodoli'
Flwyddyn ers i George Floyd gael ei ladd ym Minneapolis gan y cyn-heddwas Derek Chauvin, mae "hiliaeth systemig dal yn bodoli" yn ôl rhai sy'n byw yn yr UDA. 12 mis ac achos llys yn ddiweddarach ac mae'r ymgyrchu dros gyfiawnder a chyfartaledd yn parhau ar draws y byd.
Mis Mai gwlypaf Cymru ers 160 mlynedd - WalesOnline
Mis Mai eleni yw'r gwlypaf ers i gofnodion y Swyddfa Dywydd ddechrau 160 mlynedd yn ôl - a dydy'r mis dal ddim ar ben. Erbyn yr wythnos ddiwethaf, roedd Cymru eisoes wedi profi 25% yn fwy o law nag arfer gyda'r tymheredd hefyd yn is na'r disgwyl am yr adeg yma o'r flwyddyn.
UE yn cyflwyno sancsiynau economaidd newydd ar Belarws - The Guardian
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno sancsiynau a mesurau newydd ar Felarws wedi i newyddiadurwr gael ei arestio. Fe gafodd awyren Ryanair ei gorfodi i lanio ym Minsk, prifddinas Belarws, ddydd Sul er mwyn arestio Roman Protasevich ac mae'r UE wedi galw am ei ryddhau ar unwaith.
Cofiwch ddilyn ap a gwefan Newyddion S4C am y diweddaraf drwy'r dydd.