Llywodraeth y DU: Teithio angenrheidiol yn unig i rannau o Loegr
25/05/2021
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi newid y cyngor ar deithio er mwyn annog pobl i beidio â theithio i rannau o Loegr heb reswm hanfodol.
Daw'r newid wedi cynnydd yn yr achosion o amrywiolyn B1.617.2 o Covid-19 yn yr ardaloedd rhain, amrywiolyn a gafodd ei adnabod yn gyntaf yn India.
Yn ôl y cyngor diweddaraf, ni ddylai unrhyw un deithio i Bedford, Blackburn a Darwen, Bolton, Burnley, Kirklees, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside heb reswm dilys dros wneud.
Cafodd y cyngor ei newid heb unrhyw gyhoeddiad swyddogol a daeth i'r amlwg yn gyntaf yn y Manchester Evening News, yn ôl The Independent.
Darllenwch y stori'n llawn yma.