Newyddion S4C

Marwolaeth George Floyd: 'Hiliaeth systemig dal yn bodoli'

25/05/2021

Marwolaeth George Floyd: 'Hiliaeth systemig dal yn bodoli'

Flwyddyn yn ôl, fe achosodd marwolaeth George Floyd ym Minneapolis don o brotestiadau byd eang.

Ddeuddeg mis ag achos llys yn ddiweddarach, lle cafwyd yr heddwas Derek Chauvin yn euog o lofruddio'r gŵr 46 oed tra'n ei arestio, mae llawer o'r farn fod angen i'r frwydr am gydraddoldeb a chyfiawnder barhau.

“Dwi’n meddwl bod o ‘di agor llygada’ lot o bobol,” dywedodd Jason Edwards, sydd o Ynys Môn yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Pittsburg, Pennsylvania.

“Mae pobol wedi’u siomi, mae pobol wedi’u synnu", ychwanegodd.

'Digwydd bob dydd'

Mae Geordan Burress o Cleveland, Ohio yn cytuno.

“Mae marwolaeth George Floyd wedi cael effaith ar gymdeithas yn yr Unol Daleithiau achos roedd ei farwolaeth mor amlwg ac yn mor gyhoeddus,” dywedodd Geordan.

“Dwi meddwl mai un peth mae pobol wedi dysgu yw bod ‘systemic racism’ dal yn bodoli dros y byd.

“Felly, dwi’n meddwl bod pobol dal yn ymgyrchu achos mae pethau fel marwolaeth George Floyd dal yn digwydd bob dydd neu o leiaf bob wythnos.”

'Parhau i ymgyrchu'

Mewn datganiad ar ran Cyngor Hîl Cymru, dywedodd llefarydd eu bod yn obeithiol y byddai pobl o bob cefndir yn parhau â’r ymgyrch Black Lives Matter.

“Roedd amser digynsail yn ystod y pandemig, yn herio ni ac yn ein gwthio, yn gwneud yr ymgyrch yn llawer cryfach,” dywedodd.

“Rydym yn obeithiol y bydd pawb yn parhau i ymgyrchu am hawliau i bobl du ac yn herio’r anghyfiawnder sydd yn dal i fodoli yn ein bywydau o ddydd i ddydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.