Newyddion S4C

UE yn cyflwyno sancsiynau economaidd newydd ar Belarws

The Guardian 25/05/2021
Awyren Ryanair

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno sancsiynau economaidd a mesurau newydd yn erbyn cwmni awyrennau cenedlaethol Belarws.

Cafodd y mesurau eu cyflwyno wedi i awyren Ryanair gael ei gorfodi i lanio ym Minsk, prifddinas Belarws, er mwyn arestio'r newyddiadurwr a'r blogiwr Roman Protasevich.

Nos Lun, fe gondemniodd yr Undeb Ewropeaidd yr orfodaeth ar yr awyren i lanio gan alw ar Felarws i ryddhau Mr Protasevich a'i gariad, Sofia Sapega o Rwsia, ar unwaith.

Daeth y cyhoeddiad wedi i Mr Protasevich ymddangos ar deledu Belarws am y tro cyntaf ers iddo gael ei arestio.  

Roedd i'w weld yn cyfaddef i droseddau honedig yn erbyn y wladwriaeth, yn ôl The Guardian.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.