Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Iau, 20 Mai.
Cyhoeddi manylion cynllun £100m i adfer gofal iechyd wedi'r pandemig
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cynllun y Llywodraeth i adfer y system ofal iechyd wedi'r pandemig drwy fuddsoddiad gwerth £100m. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer offer, staff a thechnoleg newydd.
‘Ddim yn rhydd oddi wrth Covid nes bydd pawb wedi’u brechu’
Mae pennaeth yr rhaglen frechu yng Nghymru wedi dweud y bydd gan bobl mwy o ryddid oddi wrth Covid-19 pan fydd pawb wedi derbyn y frechlyn. Roedd Dr Richard Roberts yn ymateb i ddaliadau gwrth frechu a godwyd gan rai ar raglen ‘Covid, Y Jab a Ni’ ar S4C.
Rhybudd melyn am wyntoedd i Gymru
Mae rhybudd melyn am wyntoedd wedi ei gyhoeddi am rannau o Gymru yn ddiweddarach yn yr wythnos. Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 18:00 nos Iau a 21:00 nos Wener.
'Great British Railways': Corff cyhoeddus newydd i drenau Lloegr
Bydd gwasanaethau rheilffyrdd Lloegr yn cael eu trosglwyddo i gorff sector cyhoeddus newydd. Cafodd British Rail ei breifateiddio yn y 90au, ond mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd holl reilffyrdd a threnau Lloegr yn cael eu trosglwyddo i gorff cyhoeddus newydd, Great British Railways.
Disgwyl adroddiad am ddulliau’r BBC o sicrhau cyfweliad Tywysoges Diana
Mae disgwyl i adroddiad ar sut gwnaeth y newyddiadurwr Martin Bashir o'r BBC lwyddo i gael cyfweliad gyda'r Dywysoges Diana gael ei gyhoeddi ddydd Iau. Mae cyfweliad rhaglen Panorama wedi bod yn destun ymchwiliad mewnol ar ôl i Mr Bashir ffugio llythyrau banc a gredir iddo eu defnyddio i gael mynediad at Diana.