Newyddion S4C

‘Ddim yn rhydd oddi wrth Covid nes bydd pawb wedi’u brechu’

20/05/2021

‘Ddim yn rhydd oddi wrth Covid nes bydd pawb wedi’u brechu’

Mae pennaeth yr rhaglen frechu yng Nghymru wedi dweud y bydd gan bobl mwy o ryddid oddi wrth Covid-19 pan fydd pawb wedi derbyn y brechlyn.

Roedd Dr Richard Roberts yn ymateb i ddaliadau gwrth frechu a godwyd gan rai ar raglen ‘Covid, Y Jab a Ni’ ar S4C.

Hyd yma mae 2,046,011 o Gymru, tua 65% o’r boblogaeth, wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn.

Ond mae rhai yn parhau i fod yn amheus o’r brechlyn, gyda protestiadau yn eu herbyn a’r cyfnodau clo yn codi ledled Prydain yn ystod y pandemig.

Image
Covid y Jab a Ni
Nid oedd y ffermwraig o’r gogledd yn fodlon rhannu ei hwyneb ar gamera wrth drafod ei daliadau.

Yn y gogledd, doedd un ffermwraig wnaeth siarad ar y rhaglen ddim yn barod i rannu ei henw am ei daliadau gwrth frechu.

Mae hi’n ofni sut effaith fyddai hynny’n gael ar ei bywyd, gan ddweud fod pobl yn cael eu “sathru” arnyn nhw os oes ganddyn nhw farn wahanol i eraill.

Dywed y ffermwraig fod rhan fwyaf o’r syniadau mae hi wedi dod ar eu traws wedi bod ar y gwefannau cymdeithasol, ac erbyn hyn mae hi’n gwbl argyhoeddedig nad ydy’r brechlyn yn saff.

Meddai: “Nesi ddim mynd allan i chwilio am y wybodaeth ‘ma, welish i post yn dod fyny a dyma fi’n meddwl bod hwnnw yn reit ddiddorol”.

Mae gwefannau cymdeithasol fel YouTube a Facebook wedi ceisio mynd i’r afael â’r camwybodaeth gwrth frechu sy’n ymddangos ar eu platfformau trwy wahardd rhai cyfrifion.

Wrth gael ei herio ar wirionedd y sylwadau arlein, dywedodd: “Wel sut wyt ti’n gwybod bod y BBC yn dweud y gwir wrtha chdi? Sut wyt ti’n gwybod fod y llywodraeth yn dweud y gwir wrtha chdi?

“Fyswn i’n licio bod na frechlyn magic a bod genai 100% ffydd yndda fo, ond ar y funud does gen i ddim, a dydw i ddim yn mynd i’w gymryd o.”

Mewn protest ym Mae Caerdydd, roedd rhai o’r mynychwyr yn mynnu y byddai’r corff yn gallu ymladd y feirws yn naturiol, ac yn gwrthod y brechlyn yn gyfan gwbl.

Mae Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo brechlyn Pfizer-BioNTech a AstraZeneca.

Mae’r Asiantaeth, ynghyd â llywodraethau’r Deyrnas Unedig, yn cael eu cynghori ar ddefnydd o’r brechlyn gan gyrff annibynnol megis y Comisiwn ar Feddyginiaethau Dynol, a’r Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio.

Ym mis Ebrill, daeth yr MHRA i’r casgliad y dylai pobl dan 30 yn y Deyrnas Unedig dderbyn brechlyn gwahanol i AstraZeneca yn sgil tystiolaeth oedd yn cysylltu’r brechlyn i geuladau gwaed prin.

Image
Covid, y Jab a Ni
Dywedodd Dr Roberts ei fod yn ofni i bobl gael eu “camarwain” gan negeseuon gwrth frechu.

Mae Dr Roberts, sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth o’r brechlynnau yng Nghymru, wedi dweud fod gan “pob brechlyn effeithiol rhyw sgil effeithiau”.

Meddai: “Mae pryderon yn hollol ddealladwy, ond mae pobl naill ai yn gallu ymddiried yn y cyrff annibynnol neu ddim.

“Ma fe’n wir, busnes yw’r cwmniau mawr – ond rhwng ni a’r cwmniau mae 'na gyrff annibynnol sy’n llawn o bobl fydd ddim yn elwa.

“I ni ‘di bod mewn argyfwng, a da ni ddim mewn lle lle mae pawb yn gallu gwneud be mae nhw ishe.

“Mi fydd ‘na drydedd ton – dyna be mae’r arbenigwyr yn ei ddweud.

“Mi fydda ni’n fwy rhydd pan fydd mwy o bobl wedi cael eu brechu, felly byswn i yn argymhell pawb i gael y brechlyn.”

Gallwch wylio Covid, y Jab a Ni ar S4C am 21:00 nos Iau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.