Newyddion S4C

Cyfweliad Tywysoges Diana: Y BBC yn ymddiheuro am gelu 'methiannau amlwg'

Sky News 20/05/2021
Tywysoges Diana

Fe wnaeth y newyddiadurwr Martin Bashir 'dwyllo a chymell' brawd y Dywysoges Diana er mwyn sicrhau cyfweliad gyda hi yn 1995, yn ôl adroddiad newydd. 

Daeth yr Arglwydd Dyson, sydd wedi bod yn arwain yr ymchwiliad, i'r casgliad fod Bashir wedi torri canllawiau'r BBC yn "ddifrifol" ar y pryd. 

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie, wedi ymddiheuro am ganfyddiadau'r adroddiad. 

Mae'r cyfweliad enwog i raglen Panorama wedi bod yn destun ymchwiliad mewnol ar ôl i Mr Bashir ffugio llythyrau banc a gredir iddo eu defnyddio i gael mynediad at  y Dywysoges Diana, meddai Sky News.

Pwrpas yr adroddiad oedd ystyried a oedd y camau a gafodd eu cymryd gan Mr Bashir a'r BBC yn briodol, ac i ba raddau y dylanwadodd y camau hynny ar benderfyniad Diana i gytuno i gael ei chyfweld.

Fe wnaeth Bashir gamu lawr fel golygydd crefydd y BBC yn ddiweddar oherwydd problemau iechyd. 

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.